Placeholder Image

Lona Tudor Jones

Rheolwr Ymchwil a Datblygu

Dechreuodd Lona ei gyrfa fel athro cyfathrebu a sgiliau busnes mewn sefydliadau Addysg Uwch, ond penderfynodd symud i’r GIG i weithio ym maes radioleg. Yna symudodd at Uned Academaidd yn Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych gan weithio fel Rheolwr Archwilio Clinigol ym maes camddefnyddio sylweddau ac anhwylder straen ôl-drawmatig. Ar ôl ymwneud ag ymarfer datganiad Culyer ar gyfer y Cynulliad, aeth Lona i weithio fel Rheolwr Ymchwil a Datblygu i Ymddiriedolaeth GIG Conwy a Sir Ddinbych, Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru a bellach Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Trwy weithio ar a chefnogi nifer o astudiaethau ymchwil ar draws Gogledd Cymru, mae wedi datblygu cysylltiadau agos â phartneriaid acíwt, cymunedol ac academaidd ar draws y gymuned ymchwil. Ar gyfer ei BSc (Anrh), canolbwyntiodd Lona ar ymchwil gyda phlant a phobl ifanc, ac ar gyfer ei MSc mewn Hyrwyddo Ymarfer Gofal Iechyd, canolbwyntiodd ar arweinyddiaeth a rheoli mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae Lona hefyd yn Hwylusydd Ymarfer Clinigol Da Ardystiedig, aelod o grŵp ymgynghorol systemau ymchwil, aelod o grŵp gweithredol cefnogi a chyflenwi, aelod o fwrdd rheoli newid ac yn arbenigwr ar briodoli costau ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol (AcoRD).

Sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cysylltwch â Lona

Ffôn: 01745 448720 Ext 7668

E-bost

Twitter