Dr Sara Long
Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Dyfarniad Cymrodoriaeth Ymchwil Iechyd (2019 - 2023)
Bywgraffiad
Mae Sara yn ymchwilydd rhyngddisgyblaethol sydd â diddordeb yng nghanlyniadau iechyd, llesiant ac addysg plant a phobl ifanc. Mae'n arwain ystod o brosiectau drwy fabwysiadu ystod o ddulliau ansoddol a meintiol. Yn ddiweddar, cafodd gyllid ar gyfer Cymrodoriaeth Iechyd tair blynedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a fydd yn mabwysiadu cynllun dulliau cymysg (cyfweliadau, arsylwadau a dadansoddiad o gyfresi amser) i archwilio nodau, amcanion a gweithrediad diwygio ysgolion Cymru gyfan, a bydd yn modelu effeithiau ar iechyd a llesiant dysgwyr.
Mae Sara hefyd wedi cwblhau astudiaeth a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a ymchwiliodd i’r cysylltiad rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a chanlyniadau iechyd ac addysg, a rôl gyfryngu ymyrraeth gofal a gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Mae ganddi gefndir ym maes seicoleg ac iechyd cyhoeddus, ac mae ei diddordebau methodolegol yn cynnwys y defnydd o ddulliau cymysg, dadansoddiadau hydredol, arbrofion naturiol, a chyswllt data, ymhlith pethau eraill.