Beth ydy effaith COVID hir ar gostau cyflogaeth a chyfrifoldebau gofalu?

Bu’r crynodeb hwn o dystiolaeth yn edrych ar effeithiau COVID hir ar gostau cyflogaeth a chyfrifoldebau gofalu.  Roedd hwn yn gwestiwn a gododd yn ystod adolygiad blaenorol o effeithiau COVID ar gostau’r GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol. Sefyllfa yw COVID hir lle bo arwyddion a symptomau parhaus COVID-19 mewn oedolion a phlant yn parhau am fwy na phedair wythnos ar ôl haint COVID-19 acíwt. 

Cyfyngedig iawn oedd y dystiolaeth a ddaeth i law o effaith COVID hir ar gostau cyflogaeth a chyfrifoldebau gofalu.  Roedd un astudiaeth yn adrodd ar effeithiau ar gyflogaeth a daeth i’r casgliad:

  • Yn gyffredinol, roedd 33.5% o’r ymatebwyr wedi dychwelyd i’r gwaith yn yr un rhinwedd â chyn iddyn nhw ddal COVID-19 acíwt. Roedd 26.2% wedi ailddechrau yn rhan-amser ac nid oedd 38% wedi dychwelyd i’w swydd oherwydd eu statws iechyd ar ôl dal COVID-19 acíwt
  • Roedd y ganran hon o bobl a oedd heb ddychwelyd i’r gwaith oherwydd eu statws iechyd ar ôl dal COVID-19 acíwt yn uwch ymhlith y rheini a oedd wedi gorfod mynd i mewn i’r ysbyty â COVID-19.

Adroddodd yr un astudiaeth ar anghenion pobl sy’n byw â COVID hir am gefnogaeth ac ar yr angen i bobl gymryd cyfrifoldebau gofalu:

  • Roedd gorfod mynd i mewn i’r ysbyty â COVID-19 yn golygu bod mwy o angen am help â gweithgareddau byw beunyddiol.
  • Roedd y cyfnod roedd symptomau’n para hefyd yn golygu bod mwy o angen am help â gweithgareddau byw beunyddiol, ac roedd angen help yn amlach ar y rheini â symptomau a oedd wedi para am 6 mis.
  • Cyfyngedig iawn oedd y gefnogaeth yr oedd y gweithwyr proffesiynol sy’n rhoi gofal yn ei darparu.
  • Pobl a oedd yn rhoi gofal yn anffurfiol oedd yn diwallu 65% o’r anghenion am gefnogaeth.

Argymhellir cynnal ymchwil bellach i effaith COVID hir ar gostau cyflogaeth a chyfrifoldebau gofalu. 

Y gobaith yw y bydd canlyniadau 4 astudiaeth roedd NIHR ac UKRI wedi’u comisiynu a’u hariannu yn 2021 yn darparu tystiolaeth o effeithiau COVID hir ar gostau.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Awdur cryno: Alexandra Strong

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RES00038