Dr Adam Mackridge
Gwobr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
Gwobr: Dyfarniad Amser Ymchwil y GIG (2019 - 2022)
Bywgraffiad
Mae Dr Adam Mackridge wedi bod yn ymarfer fel fferyllydd ers 2002 ac mae ganddo brofiad helaeth o weithio mewn fferyllfeydd cymunedol, ym maes gofal sylfaenol, ac mewn carchardai. Roedd Adam yn fferyllydd academaidd am 15 mlynedd, gan gwblhau doethuriaeth ym Mhrifysgol Aston i gychwyn ac yna gweithio ym Mhrifysgol Lerpwl John Moores, lle’r oedd yn Ddarllenydd mewn Fferylliaeth Iechyd y Cyhoedd.
Yn 2017, dychwelodd Adam i’r GIG, gan gymryd swydd fel Dirprwy Bennaeth Fferylliaeth i Gofal Sylfaenol a Chymunedol (Dwyrain), cyn ymgymryd â’i swydd bresennol fel Arweinydd Strategol Fferylliaeth Gymunedol. Mae’n cymryd rhan weithredol mewn ymchwil ac addysg iechyd cymhwysol, gan weithio gyda chydweithwyr ym mhrifysgolion Caerdydd, Bangor, Keele a Lerpwl John Moores.