Woman receiving COVID-19 booster vaccination

Mae angen gwirfoddolwyr yn Rhondda Cynon Taf i astudio'r trydydd a'r pedwerydd dos o'r brechlyn COVID-19

11 Ebrill

Mae astudiaeth fyd-eang a arweinir gan y cwmni biotechnoleg Moderna, yn cael ei harwain yng Nghymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Cynhelir yr astudiaeth yng Nghymru yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, a bydd yn ymchwilio i effeithlonrwydd un o’r brechlynnau amrywiad Omicron-benodol cyntaf yn y byd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan yn yr astudiaeth ymchwil yn ardal De Cymru.

Bydd yr astudiaeth, sydd â safleoedd lluosog ledled y DU, yn gweld gwirfoddolwyr yn derbyn trydydd neu bedwerydd dos brechlyn COVID-19.

Wrth agor ar gyfer recriwtio yng Nghymru heddiw, bydd yr astudiaeth yn ymchwilio i effeithiolrwydd y brechlyn Moderna newydd a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer yr amrywiad Omicron. Bydd hanner y gwirfoddolwyr yn cael eu dewis ar hap i dderbyn brechlyn amrywiad Moderna Omicron a'r hanner arall yn cael eu brechu â'r brechlyn Moderna COVID-19 safonol a ddefnyddir yn gyffredin (Spikevax).

Bydd sawl apwyntiad dilynol i fonitro'r ymateb imiwn, yn ogystal â galwadau ffôn gyda'r meddyg ymchwil i wirio iechyd y gwirfoddolwr. Gofynnir i gyfranogwyr hefyd gadw e-Ddyddiadur i adrodd am unrhyw symptomau COVID-19.

I fod yn gymwys i gymryd rhan, mae angen i wirfoddolwyr:

  • fod yn 16 oed neu'n hŷn
  • fod wedi cael eich ail neu drydydd dos o unrhyw frechlyn COVID-19
  • heb gael COVID-19 ers 8 Tachwedd 2021

Dywedodd Dr Lucy Jones, Prif Ymchwilydd y treial yng Nghymru: “Rydym yn falch o weld Cymru yn chwarae rhan bwysig yn yr astudiaeth Moderna hon, ac yn edrych ymlaen at groesawu cyfranogwyr i Ysbyty Brenhinol Morgannwg, a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y frwydr yn erbyn y feirws hwn.

“Tra bod cyfraddau heintiau yn parhau i fod yn uchel, rhaid parhau â’r ymdrech ymchwil. Mae angen i ni barhau i ddysgu cymaint â gallwn am COVID-19 wrth iddo fwtadu.”

Dywedodd Moderna er bod trydydd dos o'i frechlyn COVID-19 gwreiddiol wedi cynyddu gwrthgyrff niwtraleiddio yn erbyn yr amrywiad Omicron ar yr hanner dos isaf (a ddefnyddiwyd wrth ei gyflwyno yn y DU), gostyngodd y lefelau chwe mis ar ôl rhoi'r dos atgyfnerthu. Fodd bynnag, roedd gwrthgyrff niwtraleiddio yn dal i fod yn ganfyddadwy ymhlith yr holl gyfranogwyr.

Dyma un o'r astudiaethau byd-eang cyntaf i asesu effeithiolrwydd pedwerydd dos COVID-19; fodd bynnag, mae hefyd yn recriwtio pobl sydd heb eto dderbyn eu dos atgyfnerthu cyntaf - y rhai sydd wedi derbyn dau ddos sylfaenol yn unig.

Dywedodd Dr Christopher Johnson, Pennaeth Dros Dro Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy i Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymuno â’n partneriaid ac yn galw am wirfoddolwyr yng Nghymru i gefnogi’r treial pwysig hwn. Mae angen inni ddeall yn awr pa mor aml y mae angen brechlynnau atgyfnerthu ac a allent o bosibl fynd ymlaen i achub mwy o fywydau, yn enwedig y rhai sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol. Bydd ymchwil yn parhau i fod yn rhan hanfodol o'r frwydr yn erbyn y feirws, gan gynnwys yn yr ymateb i unrhyw amrywiadau yn y dyfodol.”

Meddai’r Athro John Geen, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Mae tîm Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn hapus iawn i gynnal y treial brechlyn Moderna, gan roi cyfle pellach i wneud y mwyaf o’r buddsoddiad yn y Ganolfan Ymchwil Clinigol a ddatblygwyd yn ddiweddar yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae hefyd yn werth chweil i’r tîm gefnogi’r astudiaeth, gan alluogi Cwm Taf Morgannwg a phoblogaeth ehangach Cymru i gymryd rhan mewn ymchwil o ansawdd uchel a blaengar.”

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chyflenwi yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Wrth i ni symud ymlaen i gam adferiad y pandemig Coronafeirws, mae'n bwysig nad ydym yn colli golwg ar ba mor hanfodol yw cefnogi ymchwil barhaus i frechlynnau Coronafeirws.

“Mae dros 1500 o bobl yng Nghymru hyd yma wedi gwirfoddoli ar gyfer treialon brechlyn COVID-19, a diolchwn iddynt am eu cefnogaeth barhaus. Mae arnom angen yn awr i eraill ddod ymlaen i gefnogi’r ymdrech honno. I ddarganfod a ydych yn gymwys i ymuno â'r astudiaeth, ewch i wefan yr astudiaeth.”