Dyn ar wely ysbyty yn siarad â meddyg.

Mae astudiaeth newydd yn amcanu at gynyddu'r achosion o ganfod canser y colon a'r rhefr yn gynnar.

4 Mai

Nod astudiaeth newydd o'r enw COLOSPECT yw gwella cywirdeb canfod canser mewn profion sgrinio cyfredol gan ddefnyddio prawf gwaed a gafwyd gan gleifion sy'n cael colonosgopi yn dilyn Prawf Imiwnocemegol Ysgarthol positif (FIT).

Mae profion FIT yn cael eu cymryd gartref ac yn cael eu hargymell yn rheolaidd i bobl rhwng 50 a 75 oed i helpu i ganfod canserau'r coluddyn yn eu cyfnod cynnar a'r polypau coluddyn a all arwain at ganserau. Byddai ychwanegu prawf gwaed at y prawf FIT yn y cartref yn cynyddu cywirdeb y prawf ac o bosib yn atal canserau rhag cael eu methu, tra hefyd yn lleihau'r angen am colonosgopïau diangen pan fydd profion FIT yn dod yn ôl â chanlyniad cadarnhaol ffug.

Canser y colon a'r rhefr yw'r trydydd canser mwyaf cyffredin a'r ail brif achos marwolaeth sy'n gysylltiedig â chanser ledled y byd. Amcangyfrifir bod modd atal 90% o farwolaethau canser trwy ei ganfod yn gynnar. Diolch i ychwanegu profion gwaed at y profion FIT, mae ymchwilwyr yn obeithiol bod gan yr astudiaeth hon y potensial i helpu i ganfod canser yn gynnar ac felly achub bywydau.

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

Mae canser o unrhyw fath yn aml yn cael ei ddisgrifio fel ‘llofrudd tawel’ a gwyddom fod canfyddiad a diagnosis cynnar yn allweddol i alluogi clinigwyr i drin a rheoli cleifion yn effeithiol. Rydym yn falch o gefnogi’r astudiaeth bwysig hon, sydd, yn ogystal â bod â’r potensial i drawsnewid sgrinio canser y coluddyn yn y dyfodol, hefyd yn cynnig gobaith i unrhyw un ar restr aros am golonosgopi.”

Ychwanegodd Dr Lee Campbell, Pennaeth Ymchwil yn Ymchwil Canser Cymru, sydd wedi ariannu’r astudiaeth:

Pan gaiff canser ei ddiagnosio’n gynt, mae’n haws ei drin, ei reoli a’i wella a diolchwn i’r rhai a fydd yn cymryd rhan yn yr astudiaeth dros y tair blynedd nesaf.”

Mae’r astudiaeth COLOSPECT a noddwyd gan Brifysgol Bae Abertawe nawr ar agor yng Nghymru gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru fel y prif safle

Bydd y cyfranogwyr yn cael eu gwahodd i fod yn rhan o’r astudiaeth hon gan eu darparwr gofal iechyd mewn canolfannau asesu sgrinio ledled Cymru a gofynnir iddynt am sampl gwaed ar adeg eu colonosgopi