Menyw feichiog yn cael brechlyn.

Mae astudiaeth newydd yn datgelu mai dim ond un o bob tair menyw feichiog yng Nghymru gafodd eu brechu yn erbyn COVID-19

15 Rhagfyr

Mae astudiaeth newydd a arweiniwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi datgelu ei bod yn bosibl mai dim ond un o bob tair menyw feichiog yng Nghymru a gafodd y brechlyn COVID-19 yn ystod beichiogrwydd, er bod dwy o bob tair wedi dweud y byddent yn cael y pigiad.

Cynhaliodd y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Llesiant y Boblogaeth, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru mewn cydweithrediad ag Ysgol Feddygol Bryste ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, astudiaeth i ddarganfod:

  1. Cyfraddau brechu COVID-19 ymhlith menywod beichiog yng Nghymru a'u cysylltiad ag oedran, ethnigrwydd ac ardal o amddifadedd.
  2. Barn menywod beichiog ynglŷn â dderbyn y brechlyn COVID-19 yn ystod beichiogrwydd.

Mae prif ganfyddiadau’r arolwg yn awgrymu y byddai bron i 70% o fenywod beichiog yn hapus i gael brechlyn yn ystod beichiogrwydd i amddiffyn eu hunain a’u babanod. Ar y llaw arall, nododd 31% o’r cyfranogwyr na fyddent yn cael y brechlyn yn ystod beichiogrwydd, gan restru amrywiol resymau dros wrthod, megis cyngor/gwybodaeth anghyson a phryder yn ymwneud ag iechyd.

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: 

Mae ymchwil o'r math hwn yn hanfodol i ddyfnhau ein dealltwriaeth o bobl a'r ffordd y maent yn rhyngweithio â'r opsiynau gofal iechyd sydd ar gael iddynt. Mae canfyddiadau’r astudiaeth yn helpu i lywio a chefnogi llunwyr polisi a darparwyr gofal iechyd i nodi bylchau yn y niferoedd sy’n manteisio arnynt, gan roi’r cyfle iddynt ddod o hyd i atebion sy’n gwasanaethu cymaint o bobl â phosibl, yn enwedig grwpiau mwy agored i niwed.”