Cronfa Dysgu a Datblygu Cefnogi a Chyflenwi

Mae Cronfa Dysgu a Datblygu Cefnogi a Chyflenwi 2021 Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru nawr ar agor i geisiadau

29 Ionawr

Mae Cronfa Dysgu a Datblygu Cefnogi a Chyflenwi 2021 Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru nawr ar agor i geisiadau

Gwelwch isod i gael rhagor o wybodaeth

Canllawiau

Ffurflen gais

17:00 Dydd Llun 15 Chwefror 2021 ydy’r dyddiad cau a dylid dychwelyd ceisiadau wedi’u cwblhau, ynghyd â CV ac e-bost cadarnhau oddi wrth reolwr llinell yr ymgeisydd, i:

Research-training@wales.nhs.uk

Meini prawf cymhwysedd

Nod Cronfa Dysgu a Datblygu Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ydy hybu cyfle cyfartal i staff sy’n gweithio yn Swyddfeydd Y&D y GIG, staff Cyflenwi Ymchwil y mae’r GIG yn eu cyflogi a staff y Ganolfan Cefnogi a Chyflenwi. Felly mae’n rhaid i ymgeiswyr sy’n ymgeisio i’r Gronfa Dysgu a Datblygu ddangos eu bod nhw’n gweithio mewn sefydliad Cefnogi a Chyflenwi a’u bod nhw’n cael eu rheoli’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol (trwy eu rheolwr llinell) gan:

  • Gyfarwyddwr Y&D /Rheolwr Y&D mewn Swyddfa Y&D y GIG NEU
  • y Pennaeth Cyflenwi Ymchwil perthnasol NEU
  • Bennaeth y Ganolfan Cefnogi a Chyflenwi.

Nid yw staff GIG neu brifysgol sy’n gweithio ar astudiaethau ymchwil, ac sy’n cael eu rheoli ar wahân i’r strwythur rheoli Cefnogi a Chyflenwi, yn gymwys i ymgeisio i’r Gronfa Dysgu a Datblygu.

Cysylltwch â Research-training@wales.nhs.uk os oes gennych chi unrhyw ymholiadau pellach.