“Mae cymaint o gwestiynau heb eu hateb o hyd”- sut mae bydwragedd ymchwil yn paratoi'r ffordd ar gyfer arfer gorau
21 Mai
Mae heddiw, 5 Mai, yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Fydwraig. Thema eleni yw “Dilynwch y Data: Buddsoddi mewn Bydwragedd”, ac mae’r ffocws ar gefnogi gofal bydwreigiaeth o safon ledled y byd, gan wella iechyd rhywiol, atgenhedlu, mamol, newydd-anedig, plant a'r glasoed yn y broses. Ar hyn o bryd mae 21 astudiaeth ymchwil atgenhedlu iechyd a genedigaeth ar agor yng Nghymru, dan oruchwyliaeth Bydwragedd Ymchwil Arweiniol ar draws chwech o'r Byrddau Iechyd.
Buom yn siarad â'r Athro Julia Sanders, Arweinydd Arbenigol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer Iechyd Atgenhedlol a Genedigaeth ac Athro Nyrsio Clinigol a Bydwreigiaeth, i ddarganfod pam ei bod yn credu mai ymchwil yw'r buddsoddiad gorau yn y gymuned fydwreigiaeth, a pham ei fod yn bwysig iddi.
Sut gwnaethoch chi'r penderfyniad i fynd i mewn i ymchwil?
Yr hyn a wnaeth fy ysgogi i fynd i mewn i ymchwil, ac sy'n dal i fy ysgogi heddiw, yw eisiau darganfod sut y gallwn wella gofal i fenywod, babanod a'u teuluoedd. Bydd sicrhau bod y menywod a'r babanod yn ein gofal yn ganolog i'r ymchwil a wnawn yn sicrhau ein bod yn gofyn ac yn ateb y cwestiynau cywir, a fydd yn ei dro yn dylanwadu ar ofal er gwell.
Pam fod ymchwil yn bwysig i chi?
Oherwydd bod cymaint o bethau nad ydym yn eu gwybod! Arweiniodd gofal bydwreigiaeth y ffordd wrth gydnabod yr angen am “ofal ar sail tystiolaeth”, ond mae cymaint o gwestiynau heb eu hateb o hyd. Bu gofal ôl-enedigol wastad yn faes a esgeuluswyd mewn ymchwil. Er enghraifft, nid ydym ond megis dechrau archwilio pynciau pwysig fel anymataliaeth ar ôl genedigaeth. Gall menywod ifanc, iach brofi’r symptomau anodd, trallodus hyn ar ôl genedigaeth, ac eto mae hysbysebion ar y teledu yn awgrymu ei fod yn normal, ac i’w ddisgwyl. Nid yw anymataliaeth wrinol yn rhywbeth sydd â phroffil uchel ond mae mor anhygoel o bwysig i fenywod, ac yn rhywbeth y gallai ymchwil pellach ddarparu'r ateb iddo.
Beth yn eich barn chi yw'r datblygiad ymchwil iechyd atgenhedlu mwyaf yn eich gyrfa?
Roeddwn yn ffodus iawn i fod yn rhan o un o'r treialon cynenedigol a edrychodd ar effeithiolrwydd patrymau newidiol gofal cynenedigol. Yn draddodiadol, ers yr 1940au tan yr 1990au, roedd menywod yn cael eu gweld yn fisol hyd at 28 wythnos, yna bob pythefnos ac yna'n wythnosol. Yn gynnar yn yr 1990au, cynhaliwyd sawl treial a oedd yn archwilio p'un a oedd y patrwm hwnnw'n angenrheidiol, ac fe helpodd ein gwaith i lywio canllawiau gofal cynenedigol NICE a gyhoeddwyd yn 2003. Mae'r canllaw hwn yn cwmpasu'r gofal y dylid ei gynnig i fenywod iach a'u babanod yn ystod beichiogrwydd, a hwn oedd y canllaw mamolaeth cyntaf erioed i gael ei gyhoeddi. Nid yw'r math hwnnw o waith wedi'i wneud eto ar gyfer gofal ôl-enedigol.
Wrth feddwl am astudiaethau sydd wedi dylanwadu ar ofal mamolaeth, roedd yr astudiaeth Man Geni yn Lloegr yn torri tir newydd. Sefydlodd fod menywod sydd â beichiogrwydd didrafferth ac sy'n bwriadu rhoi genedigaeth mewn Uned dan Arweiniad Bydwreigiaeth, lle darperir gofal llafur gan fydwragedd a chynorthwywyr gofal mamolaeth, yr un mor ddiogel i famau a babanod â chynllunio genedigaeth mewn uned obstetreg. Trawsnewidiodd yr astudiaeth hon, a gyhoeddwyd yn 2011, ofal mamolaeth yn y DU gyda llawer mwy o fenywod bellach yn cael yr opsiwn i gynllunio genedigaeth mewn uned fydwreigiaeth sy'n darparu amgylchedd clinigol priodol, hamddenol ar gyfer esgor a genedigaeth.
Pam ydych chi'n meddwl bod proffil bydwreigiaeth wedi arfer bod yn isel ei broffil?
Yn onest, rwy'n credu nad yw gofal ôl-enedigol yn faes sy'n denu llawer o ddiddordeb meddygol. Mae gan obstetregwyr ddiddordeb mawr yng ngofal menywod yn ystod genedigaeth, ond gofal ôl-enedigol fu ‘Sinderela’ gofal mamolaeth erioed. Gan nad oes gennym sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer yr angen am ofal ôl-enedigol, mae'n anodd iawn ei amddiffyn. Os na chawn y dystiolaeth honno trwy wneud mwy o ymchwil, yna rydym mewn perygl o golli llawer o'n gofal ôl-enedigol yn y gymuned i fenywod.
Beth yw eich uchelgais ar gyfer y deng mlynedd nesaf o ymchwil bydwreigiaeth?
Mae angen i ni fynd i'r afael ag iechyd meddwl amenedigol, a bod yn effro i faint o drawma seicolegol a thrallod y mae menywod yn ei brofi yn ystod genedigaeth. Efallai y byddant yn mynd adref yn iach yn gorfforol, a gyda babi iach, ond wedi eu trawmateiddio'n fawr gan yr hyn y gwnaethont ei brofi yn yr ystafell esgor. Dyna fyddai un o fy mlaenoriaethau ymchwil.
Hefyd, gwyddom o waith ein hadroddiadau marwolaethau ac afiachusrwydd mamau fod menywod a babanod grwpiau lleiafrifoedd du ac ethnig â mwy o siawns o farw ac afiachusrwydd difrifol wrth eni plentyn. Credir bod hyn yn deillio o gyfres o ffactorau sy'n cyd-ddigwydd - rhagfarn, anhawster cael gafael ar ofal, amddifadedd, a mwy. Nid yw'n syml i'w ddatgymalu, ond mae'n rhaid iddo fod yn flaenoriaeth ymchwil.
Pam fyddech chi'n annog bydwragedd i gymryd rhan mewn ymchwil?
Mae cymryd rhan mewn ymchwil yn eich herio ym mhopeth a wnewch. Mae'n ffordd wych o fod yn agored i feddwl o'r newydd, i herio'ch ymarfer a'ch credoau eich hun, a hefyd i weithio gyda rhai pobl hynod o ddisglair. Gall bod yn rhan o dîm ymchwil olygu cyfranogiad ar wahanol lefelau, nid arwain astudiaeth yn unig. Rydych chi'n cael cyfle i ddylanwadu ar ofal i fenywod a babanod er gwell yn y dyfodol.
Darganfyddwch fwy am Ddiwrnod Rhyngwladol y Fydwraig ar wefan yr International Confederation of Midwives.