Annual report front cover

“Mae Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn yr ymdrech ymchwil ledled y DU ar gyflymder a graddfa na welwyd erioed o’r blaen”

13 Hydref

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, wedi canmol y gymuned ymchwil yng Nghymru am eu rhan wrth ymdrin â COVID-19 ac wedi tynnu sylw at rôl hanfodol tystiolaeth ymchwil wrth ymdrin â heriau iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol.

Bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi ei adroddiad blynyddol yn ddiweddarach heddiw (dydd Iau Hydref 14eg) mewn cynhadledd a fydd yn arddangos amser digynsail ar gyfer ymchwil, sydd wedi cynnwys sefydlu 110 o astudiaethau Covid-19 a recriwtio bron i 50,000 o wirfoddolwyr yng Nghymru.

Buddsoddodd Llywodraeth Cymru hefyd £3m i sefydlu Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru sydd wedi galluogi mynediad cyflym at ganfyddiadau a thystiolaeth ymchwil ryngwladol allweddol i lywio penderfyniadau Llywodraeth Cymru a GIG Cymru.

Dywedodd Ms Morgan: “Mae'n bwysig cydnabod pa mor bell rydyn ni wedi dod, ac ni ellid bod wedi gwneud hynny heb ymrwymiad a sgiliau ein cymuned ymchwil, a'r bobl a gamodd ymlaen i gyfrannu at yr astudiaethau a gwneud yr ymchwil yn bosibl.

“Trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo ac yn cefnogi ymchwil iechyd a gofal i sicrhau ei fod o’r ansawdd gwyddonol rhyngwladol uchaf, yn berthnasol i anghenion a heriau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac yn gwella bywydau cleifion, pobl a chymunedau.

"Bydd defnyddio ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn hanfodol wrth i Lywodraeth Cymru gyflawni ei Rhaglen Lywodraethu."

Yng nghanol heriau'r pandemig, parhaodd yr ymdrech ymchwil ehangach ar raddfa fawr, gyda 28 dyfarniad cyllid newydd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gwerth £6.3m. Hefyd, enwyd Banc Canser Cymru, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, fel Biobanc y Flwyddyn y DU 2020 gan Gyfeiriadur a Chanolfan Cydlynu Cydweithrediad Ymchwil Glinigol Meinwe y DU (UKCRC).

Bydd cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2021, Dysgu ac Edrych Ymlaen, yn cynnwys sesiynau ar ddysgu o'r pandemig, ysgogi gwybodaeth a dod o hyd i ffyrdd trawsnewidiol o weithio, ynghyd â chofleidio cynhwysiant, amrywiaeth a chydraddoldeb.

Ymhlith y siaradwyr bydd Dr Rob Orford, Prif Gynghorydd Gwyddonol Iechyd Llywodraeth Cymru; Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol ymadawol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Prif Weithredwr GIG Cymru; Yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru; Dr Esther Mukuka, Pennaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Iechyd, ac Iain Bell, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwybodaeth ac Ymchwil Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, “Rwy’n falch iawn yn ein hadroddiad a’n cynhadledd flynyddol eleni i arddangos rhai o ymdrechion cymuned ymchwil Cymru gan gynnwys y partneriaethau sy’n ymwneud â nifer o dreialon brechlyn ac astudiaethau ymchwil ar gyfer triniaethau  newydd. Nawr mae'n rhaid i ni ddechrau edrych ymlaen ac rydym yn mynd i'r afael ag agenda ymchwil y dyfodol, gan gynnwys COVID hir, adfer gwasanaethau iechyd a gofal, a dysgu o lawer o ddatblygiadau arloesol a ddatblygwyd yn ystod y pandemig.

“Mae un peth yn sicr - bydd ymchwil a’r sylfaen dystiolaeth y mae’n ei darparu yn parhau i chwarae rhan sylweddol wrth ymdrin yn effeithiol â rhai o’r heriau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n ein hwynebu nawr.”