"Mae cynllun y Prif Ymchwilydd Cyswllt yn gweithio mor dda i’n tîm ymchwil ni, gallwn ni roi profiad, arbenigedd a chymorth i ddatblygu ymchwilwyr y dyfodol"
Mae Matthew Williams, Rheolwr Ymchwil mewn Orthopedeg, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn sicrhau cefnogaeth Prif Ymchwilwyr Cyswllt ar draws amrywiaeth o astudiaethau ac mae’n annog prif ymchwilwyr, cofrestryddion ac aelodau staff iau i gymryd rhan yn y cynllun.
Beth yw Cynllun Prif Ymchwilydd Cyswllt y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd?
Mae Cynllun Prif Ymchwilydd Cyswllt y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) yn cysylltu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol nad ydynt yn ymwneud ag ymchwil gyda phrif ymchwilydd astudiaethau ar yr un safle am gyfnod o 6 mis. Caiff cyfres o dasgau sy’n ymwneud â rheoli astudiaethau ar y safle ei chyflawni ac mae tystysgrif yn cael ei dyfarnu i’r prif ymchwilydd cyswllt ar ôl cwblhau’r cynllun ar gyfer ei bortffolio hyfforddi.
Mae’r tîm ymchwil Trawma ac Orthopedeg yn Ysbyty Athrofaol Llandochau wedi bod yn defnyddio cynllun Prif Ymchwilydd Cyswllt y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, ers 18 mis. Mae’r cynllun wedi caniatáu i’r tîm feithrin prif ymchwilwyr y dyfodol, gan ddarparu cyfleoedd i aelodau’r tîm helpu i sefydlu astudiaethau a recriwtio.
Hynod effeithlon
Dywedodd Matthew: "Rydym ni wedi defnyddio model hyfforddeion tebyg ers rhai blynyddoedd. Rydym ni wedi darganfod bod y dull hwn yn sicrhau bod y tîm yn hynod effeithlon ac mae ein hastudiaethau’n gwbl gynhwysfawr, gan ddod â llawer iawn o wybodaeth at ei gilydd o amrywiaeth o arbenigeddau.
"Er enghraifft, rydym ni ar hyn o bryd yn gweithio ar yr astudiaeth BASIS sy’n ystyried defnydd gwregys corff ar gyfer plant â sglerosis. Ar yr astudiaeth hon, mae gennym ni gymrawd asgwrn cefn yn ogystal ag arbenigwr orthoteg o Rookwood fel prif ymchwilwyr cyswllt gan rannu’r gwaith enfawr rhwng tri pherson yn hytrach na’i fod yn gyfrifoldeb y prif ymchwilydd yn unig."
Pwy sy’n gymwys?
Mae’r Cynllun Prif Ymchwilydd Cyswllt yn agored i unrhyw Hyfforddai, Meddyg, Nyrs, Bydwraig, Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol neu Weithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, nad yw ymchwil yn rhan o’i swydd bresennol, sy’n barod i wneud cyfraniad sylweddol at gynnal a chyflawni ymchwil ar lefel leol.
Rheolwr Ymchwil mewn Orthopedeg
Aeth Matthew ymlaen: "Yn ein profiad ni, mae swydd y prif ymchwilydd cyswllt yn arbennig o ddefnyddiol yn ein treialon trawma acíwt pan rydym ni’n recriwtio cyfranogwyr o fewn oriau iddyn nhw gael eu derbyn i’r adran ddamweiniau ac achosion brys. Mae gan y mathau hyn o astudiaethau lwyth gwaith anodd ei ragweld sy’n golygu nad yw’r tîm ymchwil craidd a’r prif ymchwilydd bob amser ar gael i ymateb i’r galw. Drwy gael mwy o bobl i gymryd rhan yn yr astudiaeth gallwn weithiau recriwtio 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Gallai’r dull hwn fod yn arbennig o fuddiol mewn ysbytai ac arbenigeddau lle nad oes tîm ymchwil penodol neu lle mae recriwtio’n digwydd ar fwy nag un safle."
Prif Ymchwilydd Cyswllt presennol ar y treial WHiTE11 FRUITI, yn ymchwilio i driniaethau ar gyfer torri clun, Prashanth D’sa
Meddai: "Gall Prif Ymchwilwyr Cyswllt weithio ochr yn ochr â’r Prif Ymchwilydd a’r tîm ymchwil i fod yn berson cyswllt gwerthfawr yn cydlynu hyfforddeion lleol ac ymgysylltu â nhw i gymryd rhan mewn treialon.
"Gwnes i benderfynu bod yn rhan o dîm y prif ymchwilydd cyswllt i gael y profiad yr oedd ei angen arnaf i. Mae’n gam gwych tuag at swyddi arweinyddiaeth yn y dyfodol mewn prosiectau ymchwil mawr ac mae cynllun y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd yn galluogi cydnabyddiaeth swyddogol o’r swyddogaeth hon, y gallaf i ei hychwanegu at fy CV yn ogystal â chael fy nghydnabod mewn prif gyhoeddiadau."
Meddai Jayne Goodwin, Pennaeth Cyflawni Ymchwil yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Mae Cynllun Prif Ymchwilydd Cyswllt y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd yn llwybr ardderchog i’r rhai sydd eisiau cymryd rhan mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol gan ei fod yn rhoi profiad gwirioneddol o heriau ac ymarferoldeb cyflwyno astudiaeth ymchwil. Bydd datblygu prif ymchwilwyr y dyfodol yn ein galluogi ni i dyfu ein capasiti a chynyddu cyfleoedd ar gyfer ymchwil yng Nghymru.
"Rwy’n annog pawb sydd â diddordeb mewn ymchwil ond nad ydynt yn siŵr ble i ddechrau, i ddysgu mwy."
I gael rhagor o wybodaeth am gynllun Prif Ymchwilwyr y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, ewch i Wefan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd neu cysylltwch â associatepischeme@nihr.ac.uk.