Llun ar ffurf draig sy'n cynnwys ffotograffau o staff ymchwil ar draws Cymru

Mae ein draig ymchwil yn rhuo ar gyfer #Red4Research

I ddathlu #Red4Research 2024 rydym yn cydnabod timau a phobl ledled Cymru sy'n gwneud ymchwil sy'n newid bywydau.  

Cydnabod y bobl y tu ôl i'r ymchwil  

Dechreuodd #Red4Research yn 2020 yn y DU, fel ffordd o ddweud diolch i'r holl staff ymroddedig sy'n gweithio gyda'i gilydd i gynnal a chefnogi ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.   

Mae ymchwil yn digwydd bob dydd yng Nghymru, ar draws ysbytai, deintyddion, optegwyr, canolfannau therapi, cartrefi gofal a thu hwnt.  

Mae'n gwella triniaethau, yr offer a ddefnyddir, y ffordd y mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn gweithio, yn arbed arian ac amser ac mae'n newid bywydau.  

Mae ymchwil anhygoel yn cymryd tîm a dyma ein un ni yng Nghymru.  

Mae Ymchwil yn Bwysig 

Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae dros 19,600 o bobl wedi cymryd rhan mewn ymchwil ar draws 821 o astudiaethau ymchwil, gan gynnwys:  

Astudiaeth gyda'r nod o ganfod canser yr ysgyfaint yn gynharach gan ddefnyddio prawf syml 

Astudiaeth wedi'i hanelu at gefnogi mamau newydd gyda bwydo ar y fron 

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymorth a Chyflenwi: 

Mae ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yn bwysicach nag erioed, ac rydym mor falch o gydnabod a dathlu'r bobl y tu ôl i'r ymchwil, o weithwyr ymchwil proffesiynol i'r cyfranogwyr, a phawb sy'n ymwneud ag ymchwil.

"Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu gweithwyr ymchwil proffesiynol a staff y dyfodol a chefnogi'r rhai sydd eisoes yn gysylltiedig."  

Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi helpu gydag ymchwil ac i'r holl dimau a staff a anfonodd eu lluniau gwych ar gyfer #Red4Research.  

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl newyddion, ymgyrchoedd, hyfforddiant a digwyddiadau ymchwil, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol