Mae mwy na 90% o bobl yng Nghymru yn credu bod ymchwil iechyd wedi bod yn bwysig yn ystod pandemig COVID-19
5 Mai
Mae mwy na 90% o bobl yng Nghymru (91%) yn credu bod ymchwil iechyd yn y DU wedi bod yn bwysig yn ystod pandemig COVID-19, yn ôl arolwg YouGov a gyhoeddwyd heddiw.
Gwnaeth yr arolwg, a gynhaliwyd ar ran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i nodi Diwrnod Rhyngwladol Treialon Clinigol, yn gofyn amrywiaeth o gwestiynau i 1,000 o ymatebwyr am yr hyn yr oeddynt yn ei ddeall am ymchwil coronafeirws - yn enwedig ymchwil yn y DU - a'r rhan yr oedd wedi'i chwarae wrth oresgyn y pandemig.
Canfu'r arolwg hefyd bod:
- 34% nawr yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn ymchwil iechyd oherwydd y pandemig
- 86% yn credu bod y DU wedi chwarae rhan bwysig wrth ddod o hyd i driniaethau COVID-19
- 87% yn falch o ymchwilwyr y DU a staff y GIG a ddaeth o hyd i rai o'r triniaethau a'r brechlynnau effeithiol cyntaf
- 91% yn teimlo'n ddiolchgar i'r bobl sydd wedi cymryd rhan yn yr ymchwil am frechlynnau, profion a thriniaethau
- 78% yn awyddus i ymchwil iechyd fod yn rhan o ofal arferol a gynigir gan y GIG
Fodd bynnag, nid oedd y rhan fwyaf o'r bobl a ymatebodd yn gwybod bod ysbytai lleol y GIG yng Nghymru yn cynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn ymchwil iechyd COVID-19 (60%) neu ymchwil iechyd nad yw'n gysylltiedig â COVID-19 (71%).
Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
"Mae ein cymuned ymchwil yng Nghymru wedi bod yn gweithio'n ddiflino yn rhan o ymdrech ledled y DU i ddod o hyd i ffyrdd diogel ac effeithiol o fynd i'r afael â COVID-19 – o driniaethau i frechlynnau. Mae'n galonogol gweld sut mae aelodau o'r cyhoedd yn cydnabod pa mor bwysig y bu ymchwil, ac y mae'n parhau i fod, yn ystod y pandemig hwn.
"Ni allai ymchwil i achub bywydau ddigwydd heb i bobl wirfoddoli i gymryd rhan, felly rydym yn ddiolchgar iawn i'r rhai hynny sydd wedi cymryd rhan ac i'r rhai hynny sy'n bwriadu cymryd rhan mewn ymchwil iechyd yn y dyfodol.
"Wrth symud ymlaen, mae angen i ni sicrhau bod mwy o bobl yn gwybod bod eu hysbyty lleol, meddygfa, fferyllfa, practis deintyddol ac optegwyr i gyd yn cynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn ymchwil. Mae ymchwil yn bwysig yn awr yn fwy nag erioed ac mae'n hanfodol er mwyn gwella iechyd a lles pobl a chymunedau yng Nghymru."
Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru:
"Mae wedi bod yn wych gweld sut mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru wedi cyfrannu at yr ymchwil sy'n achub bywydau, sydd wedi dod o hyd i driniaethau ar gyfer COVID-19 ac wedi datblygu'r brechlynnau sydd bellach yn cael eu defnyddio mor eang, yn y DU a ledled y byd."
Dywedodd Gwawr Evans, a gymerodd ran yn nhreial brechlyn COVID-19 Rhydychen/AstraZeneca:
"Gwirfoddolais i gymryd rhan yn y treial hwn yn bennaf oherwydd mai'r brechlyn hwn, ac eraill, sy'n mynd i'n cael ni allan o'r pandemig.
"Mae'n gwneud i mi deimlo'n falch fy mod wedi cymryd rhan yn y treial hwn felly pan rwy’n clywed amdano ar y newyddion rwy'n teimlo bod gen i gysylltiad personol ag ef. Mae'n rhywbeth yr wyf wedi bod yn rhan ohono ac mewn ffordd fach wedi cyfrannu ato.
"Byddai ein byd mor wahanol heb ymchwil, mae'n hanfodol i ni i gyd. Mae'n wych gweld o'r arolwg hwn bod llawer o bobl yn teimlo'r un fath am ymchwil a byddwn yn eu hannog i ofyn i'w meddyg neu nyrs sut y gallan nhw gymryd rhan mewn ymchwil yn y dyfodol."
Ewch i wefan Be Part of Research i gael gwybod rhagor am sut y gallwch fod yn rhan o ymchwil COVID-19 ac ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol hanfodol arall yng Nghymru.
Mae'r holl ffigurau, oni nodir yn wahanol, yn dod o YouGov Plc. Cyfanswm maint y sampl oedd 1000 o oedolion. Cynhaliwyd gwaith maes rhwng 13 -17 Mai 2021. Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein. Mae'r ffigurau wedi'u pwysoli ac maent yn cynrychioli oedolion Cymru gyfan (18+ oed).