a_woman_in_blue_scrubs_smiling

‘Mae rôl nyrs ymchwil yn parhau i fod yn un o’r rhai sy’n cael ei chamddeall fwyaf’

28 Chwefror

Mae nyrs arbenigol ymchwil glinigol wedi’i hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi rhoi cipolwg ar ei rôl mewn cyfweliad arbennig gyda’r Nursing Times.

Dywedodd Victoria Garvey, o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fod rôl nyrs ymchwil yn parhau i fod yn un o’r rhai sy’n cael ei chamddeall fwyaf, er ei bod yn rhan greiddiol o fusnes y GIG ac yn sylfaenol i’r agenda iechyd ehangach, sy’n cynnwys atal, diagnosis a thriniaeth.

Mae nyrsys ymchwil clinigol yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu ymchwil glinigol, ac yn y pen draw gwella llwybrau gofal a thriniaeth cleifion. Mae'r prosiect BLAENORIAETH, a gomisiynwyd gan Brif Swyddog Nyrsio Cymru, Prif Gynghorydd Proffesiynau Iechyd Cysylltiedig, a Chyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn datblygu cynllun gweithredu i gynyddu capasiti a gallu gwneud a defnyddio ymchwil yn y maes nyrsio, bydwreigiaeth ac 13 o broffesiynau gofal iechyd cysylltiedig.

Mewn cyfweliad gyda'r Nursing Times, meddai Victoria: "Fel swyddog ymchwil ar y pryd, yn cynnal treialon clinigol yn ein hysbyty cyffredinol dosbarth, roeddwn i’n synnu cyn lleied oedd yn hysbys am rôl nyrsio ymchwil a’r manteision i gleifion a’r GIG yn gyffredinol.

"Yn ystod fy hyfforddiant nyrsio, byddai fy nghyfoedion yn gofyn i mi pam yr oeddwn i eisiau cynnal adolygiadau llenyddiaeth a dadansoddi ystadegau yn lle gweld cleifion. Byddai hyd yn oed tiwtoriaid yn cwestiynu pam yr oeddwn i eisiau mynd i faes nyrsio ymchwil, gan nad oedd "yn glinigol".

"Mae hwn yn gamddealltwriaeth cyffredin o ran rôl nyrs ymchwil. Er bod noddwr treialon ac arbenigwyr yn y maes yn dylunio’r protocol treialon, rwy’n treulio fy amser gyda chleifion, yn ymgymryd â llawer o’r tasgau o ddydd i ddydd y byddech chi’n eu disgwyl gan nyrs, gyda gogwydd ymchwil."

Mae Victoria fel arfer yn cwrdd â chleifion pan fyddant yn cael diagnosis o ganser, ac mae hi’n gweithio fel rhan o’r tîm clinigol i gynnig cyfle iddynt gofrestru mewn treial clinigol.

Mae diwrnod arferol yn golygu rhoi gofal nyrsio cyffredinol mewn wardiau a chlinigau i nifer o gleifion sydd wedi cofrestru mewn treialon, gweld cleifion trwy gydol eu triniaeth a thu hwnt. 

Ychwanegodd: "Yn ogystal â thasgau ar gyfer cleifion, rydym yn cynnal gweithgareddau ymchwil penodol, megis prosesu samplau, hap-samplu, darparu data cadarn ar gleifion, a sefydlu treialon newydd.

"Mae’r rhan fwyaf o’r cleifion yr ydym yn mynd atynt yn gwirfoddoli i fod yn rhan o dreial. Maen nhw’n dweud mai’r rhesymau dros wneud hynny yw eu bod yn dymuno cyfrannu at y sail dystiolaeth neu ddod o hyd i iachâd, neu eisiau mynediad at gyffuriau newydd, profion neu adolygiad gan arbenigwyr ledled y wlad.

"Mae’r profion manwl y mae treialon yn eu darparu yn ein galluogi i ganfod canser ar lefel foleciwlaidd, dadansoddi geneteg mewn ffyrdd newydd, ac adolygu sganiau gyda thechnoleg newydd.

"Gyda’r wybodaeth hon, mae treialon yn ein galluogi ni i gynnig triniaethau mwy dwys neu wedi’u personoli, neu gyffuriau ychwanegol ar gyfer cleifion sydd â’r risg uchaf o atglafychu neu’n llai tebygol o ymateb i driniaeth. O bryd i’w gilydd gallwn gynnig triniaeth canser i gleifion trwy dreial pan nad oes dewisiadau eraill ar gael iddynt. Gall nyrsio ymchwil achub bywydau’n llythrennol!"