Money icon

Mae tair alwad ariannu newydd nawr yn fyw

7 Hydref

*Mae'r alwad ariannu hon bellach ar gau i geisiadau*

Mae’n bleser gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyhoeddi bod galwadau newydd dan y cynlluniau a ganlyn nawr ar agor:

Unwaith eto, bydd gan alwadau RfPPB a HRG broses ymgeisio dau gam. Bydd gofyn i geisiadau Cam 1 ddarparu crynodeb o’r prosiect a phledio achos dros flaenoriaethu yn unig, a byddan nhw’n cael eu hasesu ar angen am yr ymchwil a phwysigrwydd y cwestiwn ymchwil. I’r ddwy alwad hyn, 27 Hydref 2020 ydy’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Cam 1. Ar ôl iddyn nhw gael eu hasesu, bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael gwahoddiad i gyflwyno cais llawn/ Cam 2 a fydd yn cael ei asesu ar ansawdd ac effaith debygol y wyddoniaeth a’r gwerth am arian.

Er bod y ddwy alwad ‘dan arweiniad ymchwilwyr’ ac yn derbyn ceisiadau ar amrywiaeth eang o bynciau mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, fel arfer, wedi gosod meysydd â blaenoriaeth sy’n adlewyrchu materion sy’n bwysig ar y pryd. Ar gyfer galwadau 2020-21, fe fydden ni’n croesawu’n benodol ceisiadau sy’n mynd i’r afael ag:

  • effaith COVID-19 ar ddarpariaeth gwasanaeth iechyd a gofal heblaw am rai COVID;
  • yr hyn sydd wedi’i ddysgu o'r pandemig COVID-19 y gellir ei ddefnyddio ar gyfer cyflyrau eraill neu ar gyfer trefnu a chyflenwi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol heblaw am rai COVID.

Bydd galwad y Gymrodoriaeth Ymchwil Gofal Cymdeithasol yn parhau i redeg fel proses ymgeisio un cam. Mae’r cynllun yn cynnig dyfarniadau cymrodoriaeth ôl-ddoethurol amser llawn (dros 3 blynedd) neu ran-amser (dros 4 neu 5 mlynedd) i ymchwilwyr dawnus gyda phrofiad 60 mis neu lai o ymchwil ers cyflawni eu PhD. 8 Rhagfyr 2020 ydy’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.

Mae pob prosiect gofal cymdeithasol sy’n bodloni’r gofynion yn nogfen ganllawiau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 'Beth yw Ymchwil Gofal Cymdeithasol?' o fewn cylch gwaith y cynllun. Mae croeso arbennig i geisiadau sy’n mynd i’r afael â meysydd y manylir arnyn nhw yn ein briff ar y meysydd ymchwil gofal cymdeithasol sydd â blaenoriaeth. Sef:

  • Plant sy’n derbyn gofal, a lleihau’r angen i blant fod mewn gofal;
  • Pobl â dementia;
  • Gofal a chefnogaeth gartref.

Ar gyfer galwad 2020-21, mae’r briff craidd hwn wedi’i estyn ymhellach i gynnwys ymchwil data gofal cymdeithasol a’r pynciau COVID-19 sydd wedi’u rhestru uchod.

Mae cylch gwaith a gofynion cymhwysedd pob un o’r cynlluniau hyn i’w gweld ar dudalen cynlluniau ariannu ni.