
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi croesawu lansiad y strategaeth bum mlynedd gyntaf ar Ymchwil ac Arloesi ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gwyddor Gofal Iechyd yn GIG Cymru
27 Mawrth
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi croesawu lansiad y strategaeth bum mlynedd gyntaf ar Ymchwil ac Arloesi ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gwyddor Gofal Iechyd yn GIG Cymru.
Cafodd y strategaeth, a ddatblygwyd gan y Rhaglen Gwyddor Gofal Iechyd o fewn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a'r Grŵp Ymchwil ac Arloesi Gwyddor Gofal Iechyd, ei llywio gan y proffesiwn gwyddor gofal iechyd yng Nghymru ar draws pob arbenigedd.
Ei nod yw sefydlu gweithwyr proffesiynol gwyddor gofal iechyd fel cyfranwyr allweddol cydnabyddedig i ymchwil, arloesi ac i drawsnewid ymarfer clinigol ar adeg y mae gan GIG Cymru anghenion cynyddol.
Gyda mwy na tri deg o broffesiynau gwyddor gofal iechyd, mae gwyddonwyr gofal iechyd yn chwarae rôl sylweddol yn cefnogi cleifion, gan gynnwys gofal ac adsefydlu cleifion uniongyrchol, darparu'r rhan fwyaf o waith diagnosteg, rheoli offer meddygol, ac mewn ymchwil ac arloesi.
Mae gweithwyr proffesiynol gwyddor gofal iechyd yn sylfaenol, nid yn unig ar gyfer y gwasanaethau maen nhw'n eu darparu, ond ar gyfer dod â ffyrdd newydd ac integredig o ddarparu gofal, gan ddefnyddio arloesedd a thystiolaeth i wella a newid, a thrwy hynny wella gofal cleifion.
Mae'r strategaeth yn nodi glasbrint ar gyfer gweithlu gwyddor gofal iechyd GIG Cymru sy'n amlinellu'r weledigaeth ar gyfer cynyddu ymchwil ac arloesi yn y proffesiwn, yn cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru mewn Cymru Iachach, Strategaeth Adfer a Thrawsnewid Diagnosteg Cymru a Fframwaith Edrych tuag at y Dyfodol - Gwyddor Gofal Iechyd GIG Cymru, wedi'i ategu gan Ganllawiau Statudol y Ddyletswydd Ansawdd.
Dywedodd Carys Thomas a Michael Bowdery, Cyd-gyfarwyddwyr Dros Dro Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Rydym yn falch iawn o weld bod y gymuned gwyddor gofal iechyd wedi dod at ei gilydd i gynhyrchu'r strategaeth newydd hon.
"Mae'r proffesiynau hyn yn chwarae rhan annatod wrth arwain a chyflawni rhai o'r ymchwil a'r arloesedd mwyaf blaengar ar draws y GIG. Mae'r ddogfen hon yn cydnabod pwysigrwydd datblygu gallu a gyrfaoedd ar gyfer y proffesiynau hyn – mater allweddol i'r sector ledled y DU ac un y mae gweithwyr proffesiynol gwyddor gofal iechyd Cymru yn arwain yn eu dull o fynd i'r afael ag ef.
"Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r gymuned i weithredu'r strategaeth mewn ffyrdd a fydd yn gyrru twf mewn ymchwil effeithiol er budd cleifion a phobl."