Woman examining cancer blood test on SYMPLIFY trial

Mae ymchwilwyr a chleifion o Gymru yn chwarae rhan allweddol wrth dreialu prawf gwaed aml-ganser chwyldroadol

14 Medi

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cefnogi GRAIL a Phrifysgol Rhydychen i werthuso'r defnydd o brawf canfod cynnar aml-ganser (MCED) newydd a all ganfod dros 50 math o ganser.

Mae timau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ledled GIG Cymru yn cymryd rhan yn yr astudiaeth SYMPLIFY, a fydd yn ymchwilio i brawf canfod cynnar aml-ganser (MCED) a ddatblygwyd gan GRAIL, a elwir yn Galleri, ar gyfer cleifion â symptomau amhenodol a allai fod o ganlyniad i ganser.

Nod yr astudiaeth SYMPLIFY yw dangos sut y gellid defnyddio'r prawf i gynyddu cyfraddau canfod canser a symleiddio diagnosis. Ar hyn o bryd, bydd Cymru yn gwahodd tua 700 o gleifion i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon. Bydd cyfanswm o 6,000 o gleifion o safleoedd ledled Cymru a Lloegr sydd wedi cael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu yn cael profion gwaed Galleri ochr yn ochr â'u gofal arferol, er mwyn dilysu'r prawf Galleri.

Gan ddefnyddio technoleg dilyniant chwyldroadol y genhedlaeth nesaf, mae gan Galleri y potensial i ategu rhaglenni sgrinio presennol a phrofion cyfredol i wella diagnosis cam cynnar, pan ellir trin canserau yn fwy llwyddiannus.

Mae'r astudiaeth yn un o'r rhai cyntaf i gael ei chyflwyno yng Nghymru o dan ddull Un Safle Cymru Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ffordd symlach o ddarparu astudiaethau ymchwil ledled y wlad. Mae'r dull yn rhan o raglen waith ehangach yng Nghymru, a ddyluniwyd i leihau dyblygu a chynyddu cyflymder sefydlu a darparu ymchwil. Yn y rhaglen, gall byrddau iechyd ddefnyddio'r dulliau hyn i sicrhau bod mwy o bobl nag erioed yn gallu cyrchu'r treial trwy wasanaethau lleol.

Ar hyn o bryd, mae'r treial SYMPLIFY yn recriwtio mewn 19 o ysbytai ardal, ar draws pob un o'r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru, ac mae’n cael ei gydlynu gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre:

  • Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (Sefydliad GIG Arweiniol Un Safle Cymru)
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Roedd Jeffery Horton o Fro Morgannwg yn 51 oed pan gafodd ddiagnosis o ganser y coluddyn. Nawr gyda’r canser wedi encilio, mae'n credu y gallai'r prawf fod yn “achubwr bywyd”: “Unwaith y darganfuwyd fy nghanser, tynnwyd y tiwmor ond roeddwn i angen cemotherapi hefyd. Fe chwalodd hyn fy mywyd ar y pryd, ac roedd yn daith hir a chaled. Pe bawn i wedi cael prawf gwaed fel hwn pan ddechreuodd fy symptomau, gallai fy nhriniaeth fod wedi stopio gyda'r llawdriniaeth. Gwelodd fy ngwraig a minnau y newyddion yma heddiw ac roeddem yn meddwl ei bod yn hollol wych gweld treial newydd fel hwn. Byddwn wedi bod yn falch o gael cynnig prawf mor syml. A allai hwn fod yn achubwr bywyd? Yn bendant!”

Dywedodd yr Athro Dean Harris, sy’n Brif Ymchwilydd Cymru: “Mae'r tîm wrth eu boddau yn cyflwyno'r astudiaeth bwysig hon i fyrddau iechyd ledled y wlad. Mae dull Un Safle Cymru yn golygu bod Cymru yn fwy deniadol nag erioed ar gyfer treialu technolegau newydd chwyldroadol fel Galleri, a allai helpu i newid y ffordd yr ydym yn diagnosio canser am byth.”

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Rydym yn hynod falch o ymdrechion ein staff ymchwil i gyflwyno’r treial hwn ar raddfa mor enfawr. Rydym yn edrych ymlaen at chwarae ein rhan ac olrhain ei gynnydd yn ystod y misoedd nesaf.”

Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Mae SYMPLIFY yn enghraifft wych o sut y gall Cymru weithio gyda’i gilydd i ddarparu cyfraniad ystyrlon i ymchwil achub bywyd cenedlaethol. Mae cefnogi astudiaethau diagnosis canser newydd fel yr un yma'n rhan hanfodol o'n hymrwymiad i ddarparu'r safon orau o ofal i bobl Cymru.”

Bydd SYMPLIFY yn asesu sut y gellir defnyddio Galleri er budd cleifion â symptomau amhenodol a allai fod o ganlyniad i ganser. Mae'r astudiaeth SYMPLIFY yn un o'r treialon clinigol yn y DU y mae GRAIL yn eu cefnogi, lle gall y canlyniadau casgliadol weld y dechnoleg MCED yn cael ei chynnwys mewn ymweliadau arferol â darparwyr gofal iechyd, megis meddygon teulu a lleoliadau eraill nad ydynt yn ysbytai.

Diweddariad: Recriwtio 1000fed cyfranogwr yng Nghymru

Llongyfarchiadau i'r timau ymchwil ledled y wlad, sydd wedi recriwtio 1000 o bobl yng Nghymru i dreial SYMPLIFY ar 29 Hydref 2021.

Dywedodd yr Athro Dean Harris, sy’n Brif Ymchwilydd Cymru: “Wrth gyrraedd y garreg filltir hon, mae Cymru wedi anfon neges gref i ddangos sut y gall ei chymuned ymchwil gydweithio i gyflawni astudiaethau pwysig fel hon.”