Mae ymchwilwyr o Gymru yn ymchwilio i Covid hir fel rhan o alwad cyllido gwerth £20 miliwn ledled y DU
22 Gorffennaf
Mae Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, yn cyfrannu at brosiectau arloesol yn y DU sy'n derbyn bron i £20m gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR) i helpu i fynd i'r afael â Covid hir.
Nid oes dealltwriaeth lawn o Covid hir eto ac nid yw gwir raddfa'r broblem yn hysbys - ond mae'r amcangyfrifon diweddaraf yn awgrymu bod bron i filiwn o bobl yn byw gyda'r cyflwr yn y DU. Mae ymchwilwyr ledled Cymru yn cyfrannu at bedair o'r 15 astudiaeth yn y rhaglen helaeth a ariennir gan NIHR, gan ganiatáu i ymchwilwyr ledled y DU ddod â’u harbenigedd at ei gilydd.
Mae Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, a grëwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, yn cyfrannu at ddwy astudiaeth allweddol yn yr alwad ariannu hon, LISTEN a LOCOMOTION. Mae'r treialon hyn yn edrych i mewn i Covid hir, anhwylder aml-system sy'n esblygu, sy'n cwmpasu ystod o symptomau hirhoedlog, gan gynnwys blinder, diffyg anadl, poen yn y frest, “niwl yr ymennydd” a phoen cyhyrau.
Dywedodd yr Athro Adrian Edwards, Cyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru: “Mae'r ymchwil rydyn ni'n cyfrannu ato yn cynnwys pedair gwlad y DU ac yn mynd i'r afael ag anghenion poblogaethau ethnig ac economaidd-gymdeithasol amrywiol gyda phwyslais cryf ar leihau anghydraddoldebau iechyd a galluogi unigolion i ddychwelyd i'w bywydau arferol.
“Mae’r ymchwil yn mynd i ddarparu’r dystiolaeth orau bosibl ynglŷn â sut y gellir cynllunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion pob grŵp o gleifion â Covid hir, gan alluogi Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau allweddol ar driniaethau a gofal.”
Bydd yr astudiaeth LISTEN yn datblygu a phrofi rhaglen hunanreoli wedi'i phersonoli ar gyfer unigolion sydd â Covid hir, a allai gynnwys llyfr, adnoddau digidol a phecyn hyfforddi newydd ar gyfer ymarferwyr adsefydlu. Bydd y rhaglen ddwy flynedd yn cael ei phrofi mewn treial a fydd yn recriwtio unigolion â Covid hir o bob rhan o Gymru, Llundain a Dwyrain Lloegr.
Mae'r Athro Adrian Edwards a Dr Natalie Joseph-Williams o Ganolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru yn gweithio gydag arweinwyr y prosiect, yr Athro Fiona Jones, arbenigwr mewn ymchwil adsefydlu ym Mhrifysgol St George's Llundain a Phrifysgol Kingston a'r Athro Monica Busse yng Nghanolfan Prifysgol Caerdydd ar gyfer Ymchwil Treialon.
Dywedodd ymchwilydd arweiniol ar y cyd yr astudiaeth, yr Athro Monica Busse, Cyfarwyddwr Treialon Meddwl, Ymennydd a Niwrowyddoniaeth yng Nghanolfan Ymchwil Treialon Prifysgol Caerdydd: “Bydd ein prosiect yn canolbwyntio ar lywio bywyd ar ôl Covid hir lle mae'r amrywiaeth o broblemau ac ansicrwydd ynghylch sut i'w reoli yn creu brwydr go iawn i'r unigolion hynny yr effeithir arnynt.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd ein gwaith yn arwain at gael modelau gofal newydd yn y GIG er budd y rhai sy’n byw gyda Covid hir ledled y DU.”
Bydd LOCOMOTION, dan arweiniad Prifysgol Leeds, yn gweld staff yn ysbyty Llandochau yn rhan o gonsortiwm ymchwil clinigol a'i nod yw nodi a gwerthuso arfer gorau mewn clinigau ledled y DU ar gyfer cleifion â Covid hir. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu i sicrhau y gellir optimeiddio'r holl wasanaethau gyda'r datblygiadau arloesol mwyaf effeithiol a fabwysiadwyd ledled y DU.
Dywedodd Dr Helen Davies, Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Resbiradol yn ysbyty Llandochau: “Dyma gyfle i bobl yng Nghymru sydd â Covid hir fod yn rhan o astudiaethau ymchwil a fydd yn helpu i ddarparu'r atebion gorau ar gyfer ymchwil clinigol, triniaeth ac adferiad."
Yn ogystal â Chanolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, mae ymchwilwyr eraill ac aelodau o gymuned Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyfrannu at y prosiectau ymchwil Covid hir hanfodol hyn a ariennir gan NIHR.
Bydd cyd-ymchwilwyr ar astudiaeth CICERO, Dr Nathan Bray a Dr Zoe Hoare o Brifysgol Bangor, yn ceisio deall yn well natur ‘COVID-19 gwybyddol’, gan roi prawf ar p'un a all adsefydlu niwroseicolegol wella canlyniadau pobl sy’n dioddef o Covid hir. Mae'r astudiaeth yn cael ei darparu mewn partneriaeth â Sefydliad Gogledd Cymru ar gyfer Treialon ar Hap mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Chanolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau.
Dywedodd Dr Nathan Bray: “Mae niwl yr ymennydd yn cael effaith niweidiol enfawr ar ansawdd bywyd pobl, felly rydym yn falch bod hyn wedi'i gydnabod yn y cyhoeddiad cyllido, a gallwn barhau i weithio tuag at ddeall y cyflwr yn well a gwerthuso pa driniaethau sy'n effeithiol. "
Yn arwain yr ymchwil 'Penderfynyddion imiwnologig a firologig ymchwil COVID hir', mae'r Athro David Price o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd gyda Dr Helen Davies yn gobeithio datblygu profion newydd ac ysgogi datblygiad triniaethau yn y dyfodol trwy asesu sut mae'r system imiwnedd yn gweithredu – ac am faint mae'r feirws yn parhau.
Dywedodd Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Mae ymchwil wedi bod yn ganolog i ddelio â heriau’r pandemig dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae’r angen am ffocws penodol i brosiectau sy’n mynd i’r afael â heriau iechyd tymor hwy COVID-19 yn amlwg.
“Yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gwnaethom hyrwyddo a chefnogi’r alwad gyllid Covid hir NIHR hon, felly rydym yn falch o weld ymchwilwyr o Gymru yn gwneud cyfraniadau mor gryf ar draws y prosiectau a ariennir, a fydd yn helpu i ddatgelu dulliau arfer gorau i helpu’r rhai sy’n byw gyda Covid hir ledled y byd.”