
"Mae'n hanfodol ein bod yn diogelu uniondeb ymchwil": astudiaeth yn awgrymu cynnydd mewn erthyglau ymchwil iechyd camarweiniol sy'n gysylltiedig ag offer deallusrwydd artiffisial
17 Gorffennaf
Gallai defnyddio offer deallusrwydd artiffisial fod wrth wraidd cynnydd sydyn mewn erthyglau ymchwil iechyd a allai fod yn gamarweiniol, yn ôl astudiaeth newydd wedi’i hysgrifennu ar y cyd gan Uwch Arweinydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Yr Athro Reyer Zwiggelaar, o'r Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth, oedd cyd-awdur y canfyddiadau a gyhoeddwyd yn PLOS Biology ynghyd â’i gydweithiwr Charlie Harrison.
Gweithiodd y tîm gydag ymchwilwyr o Brifysgol Surrey gan ddadansoddi 341 o astudiaethau a gyhoeddwyd dros y degawd diwethaf a ddefnyddiodd Arolwg Archwilio Iechyd a Maeth Cenedlaethol yr Unol Daleithiau (NHANES), arolwg sy'n cyhoeddi data am iechyd, maeth ac ymddygiad gan bobl ledled yr Unol Daleithiau.
Gwnaeth yr ymchwiliad ddarganfod bod llawer o'r 341 astudiaeth hynny yn dilyn strwythur bron yn union yr un fath: sef ynysu un newidyn, profi ei gysylltiad â chyflwr iechyd, a chyhoeddi'r canlyniad, yn aml heb gyfrif am ffactorau dryslyd neu gywiro ar gyfer cymariaethau lluosog.
Mae'r dull hwn yn hawdd i'w wneud yn awtomatig ac yn cynyddu'r risg o ganlyniadau ffug bositif, casgliadau camarweiniol a methu â bodloni safonau sylfaenol trylwyredd gwyddonol.
Dangosodd y canfyddiadau hefyd ddefnydd dethol o ddata NHANES, a elwir yn "carthu data", gyda llawer o astudiaethau yn dadansoddi amserlenni cul neu is-grwpiau penodol heb gyfiawnhad clir.
Gall yr arfer hwn arwain at ganlyniadau dethol sy'n ymddangos yn ystadegol arwyddocaol ond nad oes ganddynt berthnasedd yn y byd go iawn.
Nododd ymchwilwyr hefyd fod 190 o bapurau wedi'u cyhoeddi yn seiliedig ar y set ddata mewn dim ond naw mis - o'i gymharu â dim ond pedwar papur yn 2014.
Dywedodd yr Athro Zwiggelaar: "Rydym yn gweld ymchwydd pryderus mewn papurau wedi’u cynorthwyo gan ddeallusrwydd artiffisial sy'n blaenoriaethu maint dros ansawdd. Mae'r astudiaethau hyn yn aml yn mabwysiadu methodoleg fformiwläig a syml ac yn anwybyddu arferion gorau ystadegol.
"Mae hyn yn arwain at gasgliadau sy’n rhy syml ac yn cynyddu'r risg o ffug ganfyddiadau. Mae ein canfyddiadau yn codi pryderon difrifol am gamddefnyddio deallusrwydd artiffisial ym maes cyhoeddi gwyddonol."
"Mae’n hanfodol ein bod yn diogelu uniondeb ymchwil"
Mae'r astudiaeth hefyd yn nodi bod offer deallusrwydd artiffisial yn cael eu defnyddio fel "melinau papur" – sefydliadau sy'n masgynhyrchu papurau academaidd er elw.
Gall y cwmnïau hyn gynhyrchu llawysgrifau yn gyflym trwy wthio newidynnau i dempledi wedi'u hysgrifennu ymlaen llaw, yn aml gydag ychydig iawn o oruchwyliaeth ddynol neu gyfiawnhad gwyddonol.
Mae'r awduron yn cynnig canllawiau ar gyfer ymchwilwyr, ceidwaid data, cyhoeddwyr, ac adolygwyr cymheiriaid i wella arferion ystadegol, sicrhau tryloywder a gwarchod rhag arferion cyhoeddi anfoesol.
Ychwanegodd yr Athro Zwiggelaar: "Wrth i ymchwil sy'n defnyddio setiau data mawr ac offer deallusrwydd artiffisial ddod yn fwy cyffredin, mae'n hanfodol ein bod yn diogelu uniondeb ymchwil.
"Nid yw'r mesurau hyn yn ddiogelwch yn unig - maent yn gamau hanfodol tuag at gadw hygrededd a gwerth canfyddiadau gwyddonol yn oes data mawr."
Dywedodd y cyd-awdur Charlie Harrison, er y gall "deallusrwydd artiffisial fod yn offeryn pwerus" y gallai hefyd, pan gaiff ei gamddefnyddio, "danseilio uniondeb gwyddonol".
Dywedodd: "Nid mater academaidd yn unig yw hwn - pan fydd ymchwil ddiffygiol yn mynd i mewn i'r llenyddiaeth, gall gamarwain clinigwyr, drysu llunwyr polisi, ac yn y pen draw niweidio ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwyddoniaeth."
Bydd yr Athro Zwiggelaar yn cadeirio’r sesiwn gydamserol, Beth mae deallusrwydd artiffisial a data yn ei olygu i ymchwil?, yng nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2025, Ymchwil heddiw; gofal yfory: dathlu 10 mlynedd o effaith' – cofrestrwch nawr.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y newyddion ymchwil iechyd a gofal diweddaraf, tanysgrifiwch i dderbyn ein bwletin wythnosol.