Mae'r alwad am gyllid Cyflenwi Ymchwil Masnachol Cymru nawr ar agor
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn agor galwad i gyflwyno ceisiadau am gyllid sydd ei angen i gefnogi’r gwaith o gyflenwi ymchwil ymyriadol fferyllol masnachol, lle yr eir i gostau o 1 Ebrill 2025.
Diben y Cynllun Gwirfoddol hwn ar gyfer cyllid Prisio a Mynediad at Feddyginiaethau wedi'u Brandio (VPAG) yw rhoi arian i sefydlu galluogrwydd treialon clinigol. Gwneir hyn drwy gynyddu capasiti a seilwaith y gweithlu, yn ogystal â darparu’r hyblygrwydd sy'n berthnasol i sefydlu a chyflenwi ymchwil clinigol masnachol. Rhaid i’r buddsoddiad hwn gyflymu’r gwaith o gyflenwi ymchwil ymyriadol fferyllol masnachol er budd mesuradwy iechyd a chyfoeth yng Nghymru. Disgwylir i ymgeiswyr gyflwyno achos cryf i ddangos y bydd y buddsoddiad a sicrheir yn gynaliadwy drwy gynhyrchu incwm o fewn amserlen ddiffiniedig.
Mae'r alwad yn agored i randdeiliaid o bob maes clefydau, gwasanaethau arbenigol a'r seilwaith ymchwil clinigol o fewn y GIG a Sefydliadau Addysg Uwch.
Am ragor o wybodaeth ac i gyflwyno cais am gyllid gweler y canllawiau a'r ffurflen gais. Dylai’r ymgeiswyr ddefnyddio’r templed cynllun ariannol VPAG ochr yn ochr â'r ffurflen gais i gwblhau eu cyflwyniad.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 23:59 ar 7 Chwefror 2025