Graffig gydag arwyddion punt a chynllun ysgoloriaeth PhD gofal cymdeithasol

Mae’r Cynllun Ysgoloriaeth PhD Gofal Cymdeithasol ar agor i geisiadau

5 Ionawr

Mae’n bleser gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyhoeddi bod rownd 2021 o Gynllun Ysgoloriaeth PhD Gofal Cymdeithasol nawr ar agor.

Mae'r ysgoloriaethau hyn yn ariannu unigolion talentog i ymgymryd ag ymchwil ac astudio sy'n arwain at Ddoethuriaeth a chefnogi meithrin gallu mewn ymchwil gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Rhaid i geisiadau ddod oddi wrth y goruchwyliwr doethuriaeth arfaethedig, a ddiffinnir fel yr ymgeisydd i'r cynllun hwn. Nid oes angen i fyfyriwr fod wedi cael ei nodi adeg ymgeisio.

Dylai prosiectau Doethuriaeth a ariennir trwy'r ysgoloriaethau hyn ddarparu tystiolaeth gadarn sy'n mynd i'r afael ag anghenion gofal cymdeithasol defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a'r boblogaeth ehangach, a/neu'r sefydliad a darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol effeithlon ac effeithiol yng Nghymru.

Er y caiff ceisiadau eu croesawu ar draws y sbectrwm ymchwil gofal cymdeithasol, ar gyfer galwad 2021, bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru'n croesawu'n arbennig ceisiadau sy'n mynd i'r afael â chwestiynau sy'n ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rhaid i geisiadau hefyd gydymffurfio â'r canllawiau a nodir yn nogfen Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru Beth yw ymchwil Gymdeithasol?

Y dyddiad cau am geisiadau: 12:00 yh Dydd Gwener 5 Mawrth 2021