Gwobrau Effaith Cefnogi a Chyflenwi 2019

Mae’r enwebiadau ar agor – Beth am ddathlu ein harwyr ymchwil!

5 Chwefror

Sylwer: mae cyflwyniadau dyfarnu bellach wedi cau.

Mae’r enwebiadau bellach ar agor ar gyfer y Gwobrau Effaith Cefnogi a Chyflenwi 2021. Dyma eich cyfle chi i dynnu sylw at yr holl staff sy'n gweithio'n galed ac sy'n cyflawni llawer yn y gwasanaeth Cefnogi a Chyflenwi sydd wedi gwneud gwahaniaeth i ymchwil COVID-19 ac ymchwil arall yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Ond dim ond gyda’ch cymorth chi y gallwn ni anrhydeddu’r sêr ymchwil hyn.

Er ein bod yn gwybod bod ein holl dimau wedi bod yn gweithio mewn modd eithriadol i ddarparu ymchwil a mynd y tu hwnt i’r galw i sicrhau bod ymchwil yn digwydd, hoffem i chi enwebu unigolyn neu dîm sydd, yn eich barn chi, yn haeddu cydnabyddiaeth ar gyfer Gwobr Effaith Cefnogi a Chyflenwi 2021.

Byddwn yn cyflwyno pedair gwobr yn y digwyddiad, a fydd yn cydnabod y cyflawniadau cyflawni ymchwil gwerthfawr a wnaed gan unigolion a thimau:

1) Defnydd gorau o gynnwys y cyhoedd

Drwy’r wobr hwn rydym eisiau nodi a hyrwyddo’r defnydd gorau o gynnwys y cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru sydd wedi’i lywio gan Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd. Rydym yn chwilio am astudiaethau sydd wedi addasu i bwysau’r pandemig ac wedi defnyddio dulliau arloesol o gynnwys cleifion a’r cyhoedd mewn modd cefnogol ac ystyrlon.

2) Tîm ymchwil rhagorol

Mae’r wobr hwn yn dathlu cyflawniadau unrhyw dîm ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru. Rydym ni eisiau cydnabod tîm sydd wedi dangos arloesedd, cadernid, gwaith tîm eithriadol ac ymrwymiad i gydweithredu ar adeg pan fo ymchwil wedi bod dan bwysiau eithriadol i ddiwallu anghenion sy’n newid yn hynod o gyflym.

3) Gwobr uwchlaw a thu hwnt i weithiwr ymchwil proffesiynol rhagorol

Mae ein gwobr uwchlaw a thu hwnt yn cydnabod gweithiwr ymchwil proffesiynol o Gymru sydd wedi ymateb yn arbennig i heriau'r flwyddyn ddiwethaf. Efallai fod yr ymchwilydd hwn wedi goresgyn adfyd personol a phroffesiynol, wedi dod o hyd i ffyrdd newydd creadigol o weithio neu wedi dangos ymrwymiad sylweddol fel arall i wella iechyd a gofal pobl a chymunedau drwy eu hymchwil.

Bydd y wobr olaf, gwobr Un Gymru, yn cydnabod y rhai hynny ar draws y Gwasanaeth Cefnogi a Chyflenwi sy'n gweithio'n galed i wireddu Gwasanaeth Di-dor Un Gymru ar gyfer cefnogi a darparu ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd uchel.

Cynhelir y seremoni wobrwyo yn nigwyddiad rhithiol Cefnogi a Chyflenwi ar 22 Ebrill 2021.

Dywedodd Nicola Williams, cyfarwyddwr cefnogi a chyfllenwi: “Rydym wedi gweld ymchwil anhygoel yn digwydd yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf gan ein bod wedi chwarae rhan ganolog yn ymateb y DU i COVID-19. Mae ein gwobrau wedi’u cynllunio i gydnabod y gwaith caled a’r rhagoriaeth sydd wedi gwneud y cwbl yn bosibl.

“Felly rwy’n annog pawb yn y gwasanaeth Cefnogi a Chyflenwi i ystyried enwebu unigolyn, neu dîm, sydd wedi rhagori yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rydym wir yn dibynnu ar eich enwebiadau chi i sicrhau bod y staff mwyaf haeddiannol o bob cwr o Gymru yn cael eu cydnabod.”

Roedd ein henillwyr yn 2019 yn cynnwys y cynorthwy-ydd ymchwil Sarah Davies, nyrsys ymchwil Hywel Dda, Lydia Vitolo, rheolwr diwydiant, y nyrs ymchwil Anna Roynon-Reed a’r tîm gofal critigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

“I mi, mae’n bwysig cael eich cydnabod,” meddai Sarah Jones, nyrs ymchwil arweiniol yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais, un o nyrsys ymchwil Hywel Dda a enillodd y wobr gyhoeddus.

“Rydym yn bedwar ysbyty cyffredinol dosbarth bach ac mae pobl yn anghofio bod bach ambell waith yn well. Rydym yn gweithio’n dda iawn gyda’n gilydd, rydym yn cyfathrebu’n dda a thrwy wneud yn dda gyda’n hymchwil, rydym yn rhoi ein bwrdd iechyd ar y map.”

A allech chi neu eich cydweithwyr fod yn un o enillwyr eleni? Enwebwch eich hun neu rywun yr ydych yn ei adnabod nawr i fod â siawns.

Sut ydw i’n cyflwyno cais? 

Croesewir ceisiadau gan bob aelod o wasanaeth Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Os hoffech chi enwebu eich hun, neu rywun yr ydych yn ei adnabod, ar gyfer Gwobr Effaith Cefnogi a Chyflenwi llenwch y ffurflen ar-lein hon.

Mewn 200 gair neu lai, dylai eich cais arddangos budd neu newid cadarnhaol sydd wedi digwydd o ganlyniad i waith yr unigolyn neu’r tîm yr ydych yn ei enwebu. Dylai'r dystiolaeth o effaith yn eich cais fod yn ymwneud a myfyrdod a dadansoddiad gwirioneddol o feddwl, ymarfer a gweithredu.

Cewch hefyd atodi delwedd neu lun ategol i’ch cais.

Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Noder y bydd ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg yn cael eu cyfieithu i Saesneg cyn cael eu hasesu.

Mae’n rhaid i ffurflenni cais gael eu llenwi ar-lein erbyn 17:00 ar 15 Mawrth.

Bydd ceisiadau yn cael eu hasesu gan banel o aelodau staff Cefnogi a Chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.