Meddyg Teulu o Gymru a gafodd ei daro gan y coronafeirws yn arwain astudiaeth ymchwil DU-eang i ddod o hyd i driniaeth bosibl

6 Gorffennaf

Mae Meddyg Teulu o Gymru – sy’n dweud ei fod “yn un o’r rhai lwcus” ar ôl brwydro'r coronafeirws – bellach yn arwain astudiaeth ymchwil DU-eang i ddod o hyd i driniaeth bosibl.

Cafodd yr Athro Chris Butler, sy’n gweithio rhan-amser i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, symptomau difrifol, gan gynnwys twymyn a pheswch, ac roedd yn gaeth i’w wely am 10 diwrnod.

“Roedd gen i wres uchel ac roeddwn i wedi drysu. Byddwn i wedi gallu ffrio wy ar fy mrest,” disgrifia’r Athro Butler.

“Mae’n debyg mod i wedi bod yn siarad rwtsh, doeddwn i ddim yn gwybod lle roeddwn i, doeddwn i ddim yn gallu symud o fy ngwely, ddim yn gallu bwyta, ac roedd gen i gur pen ofnadwy.

“Tua dau ddiwrnod wedyn, mi ddechreuais i besychu ac fe barodd y peswch am dair wythnos. Ar ôl hynny, ges i gyfnodau o flinder llethol, twymyn ysbeidiol a hwyliau isel iawn. Mi gollais i fy ngallu i flasu a dipyn go lew o bwysau.”

Yr Athro Butler ydy Prif Ymchwilydd astudiaeth PRINCIPLE. Nod yr astudiaeth, sy’n cael ei harwain gan Brifysgol Rhydychen ac sydd wedi’i sefydlu yng Nghymru gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ydy dod o hyd i driniaethau sy’n gallu helpu pobl hŷn i wella’n gyflymach o’r coronafeirws a’u hatal nhw rhag bod angen mynd i’r ysbyty.

Mae’r astudiaeth wedi’i sefydlu mewn meddygfeydd ledled Cymru ac mae’n agored i bobl 50 oed a hŷn sydd â chyflyrau iechyd difrifol, neu bobl 65 a hŷn, sydd â symptomau’r coronafeirws ar hyn o bryd.

“Mae’n amser ofnadwy i bobl. Roedd yn hollol ddychrynllyd i mi, ond roeddwn i’n lwcus. Rydyn ni’n edrych ar y grŵp yma o bobl oherwydd eu bod nhw’n wynebu risg uwch o gael deilliannau mwy difrifol,” eglura’r Athro Butler.

“Diben y treial ydy nodi triniaethau y gellid eu defnyddio’n eang ac yn ddiogel mewn gofal sylfaenol. Ei nod ydy cymryd y pwysau oddi ar y gwasanaethau gofal eilaidd, ein hysbytai, ond hefyd lleihau difrifoldeb y cymhlethdodau i gleifion.”

Bydd cleifion sy’n gwirfoddoli’n cael eu dyrannu ar hap i gymryd rhan mewn un o ddwy gangen o’r astudiaeth; naill ai’r driniaeth safonol bresennol, neu’r driniaeth safonol yn ogystal â chyffur sy’n driniaeth arbrofol ar gyfer salwch COVID-19.

“Mae’n hollol hanfodol ein bod ni’n cael gwybodaeth am driniaethau y gellir eu defnyddio mewn gofal sylfaenol,” meddai’r Athro Butler. “Mae treialon o bwys yn cael eu cynnal mewn ysbytai gyda phobl sydd eisoes yn bur wael.

“Mae ein hymchwil ni yn ateb cwestiwn gwahanol. Rydyn ni’n gofyn p’un a ydy triniaeth yn y gymuned yn gallu helpu pobl sy’n rheoli symptomau yng nghyfnod cynnar y clefyd, i wella’n gyflymach fel nad oes angen iddyn nhw fynd i’r ysbyty.”

Hefyd, gall gwirfoddolwyr sydd â symptomau salwch COVID-19 gofrestru i gymryd rhan yn astudiaeth PRINCIPLE trwy ymweld â gwefan yr astudiaeth. Y gobaith ydy y bydd y dull newydd hwn o weithredu’n annog pobl ledled y DU i gymryd rhan hyd yn oed lle nad ydy’r astudiaeth wedi’i sefydlu’n ffurfiol mewn meddygfa.

“Agwedd unigryw arall ydy bod yr astudiaeth wedi’i sefydlu gan ddefnyddio model o blatfform hyblyg, sy’n golygu bod modd ychwanegu rhagor o driniaethau wrth i’r treial fynd rhagddo,” eglura'r Athro Butler.

“Hefyd, mae’r dadansoddi’n digwydd wrth i’r treial fynd rhagddo, felly os oes un cangen yn perfformio’n well, yna bydd mwy o bobl yn cael eu rhoi i mewn i’r grŵp hwnnw, gan ychwanegu at y siawns o dderbyn y driniaeth fwyaf effeithiol yn ystod y treial, yn hytrach na chael budd o’r wybodaeth ar ôl i’r treial ddod i ben yn unig.”

Meddai’r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy’n cydlynu sefydlu ymchwil ac astudiaethau yn genedlaethol yng Nghymru:

“Mae’n hanfodol bod ymchwil yn digwydd ym mhob amgylchedd, gan gynnwys gofal sylfaenol, fel ein bod ni’n casglu gwybodaeth a thystiolaeth am y triniaethau mwyaf effeithiol ar gyfer pob claf.

“Rydw i’n falch bod Meddygon Teulu ledled Cymru’n rhan o’r ymdrech DU-eang i fynd i'r afael â COVID-19.”

I gloi, dywedodd yr Athro Butler, sydd wedi gwella’n llwyr erbyn hyn:

“Mae bod yn rhan o ymdrech ymchwil a fydd o bosibl yn gwella pethau ac o bosibl yn cynhyrchu ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth y gellir eu defnyddio i helpu pobl i wella’n gyflymach ac atal deilliannau gwaeth, yn fraint aruthrol.

“Unwaith roeddwn i’n well, roeddwn i’n teimlo mor ddiolchgar o fod yn iach eto ac mor falch nad oedd y clefyd wedi fy ngadael ag unrhyw anabledd. Dwi’n teimlo bod fy mojo wedi’i adfer yn llwyr a fy mod i’n mwynhau pob munud o fy mywyd i’r eithaf. Yn sicr, dwi’n teimlo mod i’n un o’r rhai lwcus.”

Mae gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wefan am ymchwil COVID-19 yng Nghymru sy’n manylu ar yr holl astudiaethau ymchwil cysylltiedig sydd ar waith, neu ar y gweill, yng Nghymru.