Beth ydy effaith tymor hir COVID-19 ar Ansawdd Bywyd Cysylltiedig ag Iechyd unigolion â symptomau

Cefndir a Chyd-destun

Ers mis Rhagfyr 2020, mae llunwyr polisi wedi defnyddio’r ‘model afiacheddau COVID-19’ (‘fframwaith’ ysgrifenedig) i ddeall cost-effeithiolrwydd rhaglen frechu COVID-19 ac i gefnogi’r gwasanaeth Profi ac Olrhain.

Ar hyn o bryd, mae’r model yn defnyddio data a gesglir oddi wrth bobl sydd wedi dioddef o symptomau difrifol iawn COVID-19, yn ogystal â phobl yr oedd angen eu trin ar gyfer COVID-19 yn yr ysbyty. 

Fodd bynnag, mae angen diweddaru’r ‘model afiacheddau COVID-19’ i roi sylw i effaith tymor hir COVID-19 ar gleifion yr oedd eu symptomau’n ysgafnach, ac nad oedd angen iddyn nhw gael eu trin yn yr ysbyty.

Nodau

Nod yr ymchwil hon yw helpu llunwyr polisi i gynllunio a blaenoriaethu darpariaeth gwasanaethau COVID Hir yn y dyfodol. 

Strategaeth

Bu’r tîm ymchwil yn gwneud adolygiad o ymchwil sy’n bodoli. Cynhwyswyd tair ar ddeg o astudiaethau i ateb y cwestiwn. 

Deilliannau

Roedd crynodeb o’r canlyniadau’n awgrymu y gallai haint COVID-19 arwain at leihau ‘ansawdd bywyd cysylltiedig ag iechyd’ ac arwain at iechyd meddwl amharedig (gan gynnwys gorbryder ac iselder), hyd yn oed os oedd y clefyd yn ‘ysgafn’ ar y dechrau. Nid yw graddau, difrifoldeb a pharhad hyn yn glir.

Goblygiadau i Bolisi

Mae rhai cleifion yn gallu cymryd blwyddyn (neu hyd yn oed mwy na blwyddyn) i wella, a dylai cyflogwyr fod yn ymwybodol o hyn. 

Mae’n allweddol cyfathrebu’r negeseuon hyn ymhellach a sicrhau bod pobl yn ymwybodol ohonyn nhw. Gallai ymgyrchoedd addysg gan asiantaethau iechyd cyhoeddus helpu i hysbysu cleifion bod haint ysgafn COVID-19 yn gallu arwain at symptomau hirhoedlog. 

Dylid adolygu gwasanaethau ar gyfer COVID hir mewn byrddau iechyd, mewn ymateb i ddarganfyddiadau’r adolygiad hwn.

Yn olaf, mae’r ymchwilwyr yn cynghori y dylid gwneud ymchwil bellach drylwyr i’r pwnc hwn. Mae yna nifer o astudiaethau sydd dal ar y gweill ledled y DU.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RR00040