Paul Morgan

Yr Athro Paul Morgan

Uwch Arweinydd Ymchwil

Enillodd yr Athro Morgan radd mewn Meddygaeth o Brifysgol Caerdydd a chwblhaodd ddoethuriaeth cyn mynd i aros yn UDA am ddwy flynedd lle y bu’n datblygu ei ddiddordeb yn y System Gyflenwol. Dychwelodd i’r DU ac yma, gyda chymorth hael Ymddiriedolaeth Wellcome, datblygodd grŵp ymchwil yn gweithio ar y system gyflenwol, sut i’w rheoleiddio a’i rolau mewn clefyd. Mae’n gyn Ddeon Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac, ar hyn o bryd, mae’n Gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Systemau Imiwnedd ac yn Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Hodge ar gyfer Imiwnoleg Niwroseiciatrig. Mae ei ymchwil bresennol yn canolbwyntio ar rolau llwybrau cyflenwol a llwybrau enynnol eraill mewn clefyd, gyda ffocws penodol ar glefyd niwrolegol.

Sefydliad

Prifysgol Caerdydd

Cysylltwch â Paul

E-bost

Ffôn: 02920 688320