Hoffech chi ddweud eich dweud ar ba ymchwil sy'n cael ei ariannu?
Gwnewch yn siŵr bod ein hymchwil yn berthnasol i gleifion a'r cyhoedd.
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cynnal sawl cynllun ariannu ac mae angen aelodau o'r cyhoedd i helpu i adolygu ceisiadau i'r cynlluniau hynny i sicrhau bod yr ymchwil yr ydym yn ei ariannu yn berthnasol i gleifion.
Hoffai ein tîm eich help i asesu ac adolygu ceisiadau ymchwil i'n galwad Cynllun Cronfa Integredig diweddaraf sy'n canolbwyntio ar "Cyfathrebu ym maes iechyd menywod". Nod yr alwad hon yw dod o hyd i ffyrdd gwell o rannu gwybodaeth â menywod am eu hiechyd, helpu gweithwyr gofal iechyd i gyfathrebu'n gliriach a sicrhau bod menywod yn teimlo bod pobl yn gwrando arnynt ac yn eu deall wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
- Pa brofiad sydd ei angen arnaf i helpu?
- profiad personol neu roi gofal yn gysylltiedig ag iechyd menywod, megis menopos, ffrwythlondeb, beichiogrwydd neu gyflyrau iechyd cronig
- profiad o ddefnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
- Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
Bydd gofyn i chi:
- adolygu ceisiadau am gyllid a rhoi eich barn a'ch adborth. Bydd hyn yn helpu i benderfynu pa brosiectau ymchwil fydd yn derbyn cyllid.
- cyfrannu at drafodaethau sy'n digwydd yng nghyfarfodydd y bwrdd.
- adolygu ceisiadau cyn cyfarfod y bwrdd cyllido.
- bod yn gyfarwydd â'r cynlluniau ymgysylltu cyhoeddus ar gyfer pob cais.
- deall anghydraddoldebau iechyd a phwysigrwydd sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
- diddordeb mewn ymchwil a chynnwys y cyhoedd.
- gallu mynychu cyfarfod personol ar 11 Tachwedd 2025.
- rhoi adborth ar eich profiadau o adolygu'r ceisiadau.
- Pa mor hir fydd fy angen?
- Bydd angen i chi fynychu cyfarfod cymorth rhithwir am awr i gwrdd â'r tîm sy'n eich cefnogi trwy eich cyfranogiad.
- Gall ceisiadau gymryd rhwng 1-2 ddiwrnod i'w hadolygu yn dibynnu ar faint sy'n cael eu derbyn yn yr alwad ariannu.
- Bydd disgwyl i chi hefyd fynychu cyfarfod personol diwrnod llawn yng Nghaerdydd ar 11 Tachwedd lle bydd y ceisiadau'n cael eu trafod.
- Beth yw rhai o'r buddion i mi?
- Dylanwadu'n uniongyrchol ar benderfyniadau cyllido ymchwil.
- Sicrhau bod ymchwil a ariennir yn amlwg o fudd i'r cyhoedd.
- Rhwydweithio ag arbenigwyr gwyddonol ac ymgysylltu â chynrychiolwyr cyhoeddus eraill.
- Pa gefnogaeth sydd ar gael?
- Talu costau teithio rhesymol a chostau gofalwr neu ofal plant ychwanegol.
- Bydd taliad am y cyfnod yn cael ei dalu yn dibynnu ar y nifer gyfan o geisiadau a adolygwyd yn y cyfarfod panel/board a'r gyfradd ddyddiol ar gyfer adolygu 1-10 cais yw £275 a felly 11+ ceisiadau yw £350.
- Person penodol i ddarparu cymorth,
- Sesiwn gymorth ar gyfer defnyddio'r adnoddau i sgorio'r ceisiadau ac i'ch briffio am y rôl fel aelod o'r bwrdd. Byddwch yn cael eich ad-dalu £25 ar gyfer y cyfarfod hwn.
Os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau, gallwch gael cyngor cyfrinachol gan y Gwasanaeth Cyngor ar Fudd-daliadau wrth Helpu ag Ymchwil.
Sut ydw i'n ymgeisio
Dyddiad cau:
Lleoliad:
Ar-lein ac yn bersonol
Sefydliad Lletyol:
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn
Cysylltwch â'r tîm