Christmas baubles

Nadolig Llawen oddi wrth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

18 Rhagfyr

"Wrth i ni ddod at ddiwedd un o’r blynyddoedd mwyaf heriol yn ein gyrfaoedd ni i gyd, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r gymuned ymchwil gyfan yng Nghymru am ei gwaith caled a'i hymrwymiad.

"Daeth COVID-19 â'r newid cyflym a radical i'r GIG, y system ofal ac yn dilyn hynny i fyd ymchwil. Mae ymchwil yn bwysicach nac erioed ac mae wedi cyffwrdd â bywydau mwy o bobl nag erioed eleni.  Mae'r gwaith a wnaed i gynnal profion ar therapïau posibl ar gyfer COVID-19 yn gyflym ac ar raddfa fawr, ac i ddatblygu a chynnal profion ar frechlynnau sydd erbyn hyn yn dechrau cael eu defnyddio, yn anhygoel ac yn ddigyffelyb.

"Gallwn fod yn hynod falch o'r ymdrech yng Nghymru gan ein cymuned ymchwil a gofal iechyd sydd wedi cydweithio â phartneriaid ledled y DU ac yn rhyngwladol. Mae'r oriau wedi bod yn hir a'r amgylchiadau'n fwy anodd nag unrhyw flwyddyn arall ond bu'n wych sylweddoli cymaint o wahaniaeth gwirioneddol y mae ein gwaith yn ei wneud i fywydau pobl a chymunedau yng Nghymru, pan fyddwn ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd.

"Gan bawb yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, rydym ni eisiau dweud diolch.

"Rwyf wedi'i ddweud o'r blaen ac fe wnaf ei ddweud eto, gan weithio gyda'n gilydd, gallwn ni wireddu'r syniad bod ymchwil heddiw yn arwain at ofal yfory – ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda chi yn 2021."

Yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru