Cyfrifiad newydd yn amlygu rôl hanfodol nyrsus a bydwragedd ymchwil ar draws Cymru
21 Chwefror
Yn ôl cyfrifiad a gynhaliwyd gan grŵp o Arweinwyr Ymchwil NIHR 70@70 Uwch Nyrsus a Bydwragedd, mae o leiaf 265 o nyrsus a bydwragedd ymchwil dros Gymru gyfan ac ar draws pob maes mewn gofal iechyd.
Mae’r cyfrifiad, yn cynnwys 7,469 o ymatebion oddi wrth nyrsus a bydwragedd ar draws y cyfan o’r pedair gwlad yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon, yn datgelu bod nyrsus a bydwragedd yn gweithio ar bob lefel o ofal iechyd, o Fandiau 5 – 9 yn y DU, ac o nyrsus staff i Gyfarwyddwyr Nyrsio neu Fydwreigiaeth yng Ngweriniaeth Iwerddon.
Cyfleoedd ar gyfer Datblygu Gyrfa
Mae canlyniadau’r cyfrifiad yn awgrymu bod yna gyfleoedd i ymuno â’r proffesiwn ar unrhyw lefel, gyda phosibilrwydd parhaus ar gyfer hyrwyddo gyrfa. Mae’n dangos bod nyrsus a bydwragedd ymchwil clinigol yn weithlu arbenigol, gyda gwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd mewn dyletswyddau clinigol ac hefyd mewn gwaith ymchwil.
Emma Williams, o Cwmfelinfach yng Nghaerffili, yw Rheolwraig Uned Treialon Haematoleg yn Ysbyty Prifysgol Cymru.
Yn 2021, enillodd Emma wobr Cefnogi Gwelliannau trwy Ymchwil yn seremoni Gwobrau Nyrs y Flwyddyn gan Goleg Brenhinol Nyrsio Cymru.
Ers cychwyn ei swydd yn 2015, mae Emma wedi gweithio tuag at gynyddu nifer yr astudiaethau ymchwil mewn hematoleg , gan helpu i newid bywydau pobl gydag amrywiaeth eang o anhwylderau’r gwaed. Bu’n gweithio ochr yn ochr gyda Phrif Ymchwilwyr, yn trefnu cyfarfodydd adrannol misol ac yn creu cynllun strategol i wneud yn siwr bod cleifion yn cael bob cyfle i gymryd rhan mewn treialon a allai arbed bywydau.
“Rwyf wirioneddol eisiau annog nyrsus i arwain ymchwil”
Dyma eiriau Emma: “Mae nyrsus yn tueddu i fod â pherthynas agos gyda’u cleifion, felly mae’n bwysig bod y nyrs yn ganolog yn yr astudiaeth er mwyn bod yn gefn iddynt.”
“Rwyf wirioneddol eisiau annog nyrsus i arwain ymchwil, maent yn werth y byd i brofiad y claf.”
Mae lled a dyfnder ymroddiad nyrsus a bydwragedd ymchwil ym mhob rhan o’r sector gofal iechyd yn tanlinellu maint eu harbenigedd a’r ddarpariaeth gofal effeithlon, diogel ac ansawdd uchel y maent yn ei roi i’r cleifion y maent yn ymwneud â hwy.”
Rôl hanfodol yn ystod y pandemig
Mae nyrsus a bydwragedd ymchwil wedi chwarae rhan hanfodol drwy gydol y pandemig COFID, yn cefnogi astudiaethau COFID ac astudiaethau eraill heb fod ynghylch COFID. Er enghraifft, yn ystod y pandemig maent wedi cefnogi 359 o astudiaethau ymchwil yn ymwneud â COFID ac wedi helpu i recriwtio dros 2.5 miliwn o gyfranogwyr dros fwy na 5,000 o safleoedd yn y DU yn unig. Mae hyn yn cynnwys recriwtio ar gyfer astudiaethau megis treial ADFER (RECOVERY), pan ganfuwyd bwysigrwydd y steroid dexamethasone ar gyfer trin achosion mwyaf difrifol COFID.
Amcangyfrifir bod y canfyddiad hwn ei hun wedi achub dros filiwn o fywydau ledled y byd, tra bod cynnal astudiaethau brechiad cofid ar fyrder yn gofyn am fodelau gweithlu newydd er mwyn sicrhau bod rhaglen brechu y GIG yn cael ei dilyn.
Dyma ddywedodd Jayne Goodwin, Pennaeth Cenedlaethol Cyflawni Ymchwil gyda Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Mae’r cyfrifiad hwn yn taflu goleuni ar bwysigrwydd ein cymuned nyrsio a bydwreigiaeth yn y DU. Nid yw’n bosibl cynnal ymchwil clinigol ar gyfer hyrwyddo a chwyldroi triniaeth a gofal heb ein nyrsus a’n bydwragedd ymchwil a gweithwyr proffesiynol eraill mewn gofal iechyd.
“Mae nyrsus a bydwragedd ymchwil yn rhan hanfodol o’n gweithlu ymchwil. Wrth ystyried llwyddiant a rôl hanfodol timau cyflawni ymchwil yn ystod y pandemig, mae’r data yn gwir amlygu’r cyfraniad enfawr y mae’r gyfran gymharol fach hon o’r gymuned broffesiynol wedi ei wneud – ac yn parhau i’w wneud – i iechyd a llesiant pobl Cymru.
“Mae ein nyrsus a’n bydwragedd ymchwil yn ymarferwyr arbenigol gyda sgiliau uchel. Mae’r cyfrifiad yn ein gwneud yn ymwybodol o’u rolau a’u gallu ar gyfer arweinyddiaeth a datblygiad gwasanaeth yn ogystal â sicrhau dewis i’r claf ac ansawdd gofal o’r radd uchaf. Mae’n rhaid i ni yn awr ddefnyddio’r data hwn er mwyn cefnogi datblygiad a phroffil ein timau.”
Cafodd y cyfrifiad ei lansio am y tro cyntaf dros y cyfan o’r DU yn Hydref 2021 ac mae nyrsus a bydwragedd ymchwil yn Awstralia a’r Unol Daleithiau yn gobeithio dilyn ein esiampl gyda’r gwaith hwn.”