Board with coloured circles signifying partnerships and collaborations

Newidiadau allweddol i gost ymchwil fasnachol  

5 Hydref

Fel rhan o waith i wella'r broses o sefydlu astudiaethau masnachol ac mewn ymateb i Adolygiad yr Arglwydd O'Shaughnessy o dreialon clinigol masnachol yn y DU, mae rhai agweddau ar y ffordd y mae cost yn cael ei drafod, drwy'r broses a elwir yn Adolygiad Gwerth Contract Cenedlaethol (neu’r NCVR), yn newid.

Beth sy'n newid gyda cham dau’r NCVR yn ystod mis Hydref?

 O’r 1af Hydref 2023

Ar gyfer yr holl astudiaethau a gyflwynir yn y System Ymgeisio Ymchwil Integredig (neu IRAS) neu offeryn costio rhyngweithiol (iCT) o ddydd Sul 1af Hydref 2023:

  • ni fydd negodi prisiau safle'r GIG lleol. 

  • bydd holl gytundebau templed masnachol y DU yn cynnwys yr atodiad ariannol newydd. 

  • mae'r atodiad ariannol yn orfodol i'w ddefnyddio, heb ei addasu.

  • bydd cyflwyniadau IRAS ac ICT yn cael eu gwneud ar yr un pryd.

  • bydd adolygiadau adnoddau astudio yn cael eu rheoli o dan Egwyddorion Cam 2.

  • caiff yr adolygiad cenedlaethol iCT ei rannu gydag ymgeisydd yn hytrach na'r safle. Mae'r ymgeisydd yn copïo atodlen cyllid iCT penodol y sefydliad i'r atodiad contract templed newydd, i'w rannu â'r safle (bydd safleoedd yn dal i dderbyn manylion cyllideb lefel sefydliad llawn gan yr iCT, i gefnogi anfonebu a thalu mewnol, gan y bydd noddwyr yn darparu hyn).

Fel noddwr, beth sydd angen i mi ei wneud o’r 1af Hydref 2023?

O’r 1af Hydref 2023 mae'n rhaid i chi wneud y canlynol:

  1. Cyflwynwch eich iCT ar gyfer adolygu adnoddau astudio ar yr un pryd â'ch cyflwyniad IRAS.

  2. Cynhwyswch y cytundeb templed DU newydd priodol, gyda'r atodiad ariannol newydd, yn eich cyflwyniad IRAS. Peidiwch â defnyddio unrhyw gytundebau blaenorol ar gyfer unrhyw gyflwyniad IRAS ar neu ar ôl 1af Hydref.

  3. Pan fydd ar gael, copïwch yr atodlen cyllid iCT i atodiad ariannol y cytundeb i'w rannu â safleoedd. 

  4. Cwblhewch broses iCT y safle, cyn rhannu'r iCT lefel safle dan glo gyda'r safle y tu mewn i CPMS.  Dylid gwneud hyn ar yr un pryd â rhannu'r templed contract gorffenedig gyda'r safle, i gefnogi anfonebu safle a thalu mewnol

Beth sy'n newid ar 18fed Hydref 2023:

Bydd yr Offeryn Costio rhyngweithiol (iCT) yn cael ei ddiweddaru i gynnwys:

  • Swyddogaeth newydd, gan gynnwys sefydlu Ymchwil a Datblygu haenog, ffioedd cydlynu a chau a chyfrifiadau diwygiedig yn seiliedig ar amser, gan ddisodli rhai costau uned.

  • Bydd ymchwiliadau'n codi ar sail amrywiad prisiau a dadansoddi allanoli, gyda newidiadau i'w gweld yn Llyfr gwaith tariffau’r iCT.

  • Mae Ffactor Grym y Farchnad ar gyfer Cymru, Yr Alban a Northen Ireland yn aros yr un fath.  Ar gyfer Lloegr yn unig, mae lluosyddion safle yn cael eu hymgorffori trwy werth Ffactor Grym y Farchnad ddiwygiedig ar gyfer ymchwil.  Mae'r newid hwn yn berthnasol ar adeg creu fersiynau safle penodol a bydd yn weladwy yn llyfr gwaith tariff iCT.  

  • Bydd eitemau fel lwfans teithio neu gynhaliaeth cyfranogwr yn gostau trwodd ac nid ydynt wedi'u rhestru o fewn y gyllideb. Mae atodiad cyllid newydd y DU yn caniatáu i noddwyr gapio costau trwodd o'r fath fesul ymweliad, gyda’r angen am awdurdodiad noddwr o ran costau sy’n cael eu codi dros y cap. 

Mae perchnogion yr iCT (NIHR) wrthi'n diweddaru'r Canllaw defnyddiwr iCT ac  adnoddau NCVR er mwyn adlewyrchu cam dau.

Beth mae hyn yn ei olygu o’r 18fed Hydref 2023 i safleoedd sydd wedi'u sefydlu ar hyn o bryd?

Bydd angen i unrhyw gytundeb sydd heb ei gyfnewid (h.y. wedi'i lofnodi gan y ddau barti a'i hysbysu / dychwelyd at y noddwr) ddilyn cam dau NCVR o’r 18fed Hydref 2023.

Mae hyn yn golygu y bydd angen i unrhyw astudiaethau a sefydlwyd, sydd â chontractau sydd heb eu llofnodi, ddefnyddio'r templed contract diwygiedig, gydag atodlen cyllid newydd a gynhyrchir drwy’r iCT.  Ar gyfer safleoedd lle nad yw cyfnewid contractau wedi digwydd cyn 18fed Hydref 2023, bydd y gyllideb a gynhyrchir gan iCT yn berthnasol heb negodi lleol.

Pa astudiaethau sydd o fewn cwmpas cam 2 yr NCVR?

Yn ystod cam dau, mae'r broses NCVR lawn (adolygiad safle arweiniol y GIG a derbyn canlyniadau iCT) yn parhau i fod yn berthnasol i bob ymchwil contract masnachol yn y GIG.

Yr unig eithriadau yw:

  • astudiaethau Cyfnod I-IIa

  • astudiaethau cynnyrch meddyginiaethol therapi uwch (sef ATMP)

Mae gwaith ar y gweill i ddod â'r astudiaethau hyn i mewn i'r broses NCVR lawn cyn gynted â phosibl.

Ar gyfer unrhyw astudiaethau (wedi'u cynnwys a'u heithrio) sy'n digwydd o fewn safleoedd contractwr annibynnol / Gofal Sylfaenol, nid oes rhaid i'r safleoedd hyn dderbyn canlyniad yr iCT.  Mae cynllun ymlyniad gwirfoddol yn cael ei archwilio ar hyn o bryd i ddod â mwy o leoliadau ymchwil i mewn i'r broses NCVR llawn.

Dywedodd Dr Helen Hodgson, Uwch Reolwr Ymchwil, Portffolio a Chyfeiriaduron Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: 

Rydym eisoes wedi gweld manteision i'r fenter hon yn y DU, gwelodd cam un o'r broses hon yr amser a gymerwyd o gyflwyno costau i recriwtio cleifion cyntaf yn gostwng gan 45% ac yn ogystal â sefydlu cyflymach, mae’r NCVR wedi rhyddhau adnoddau mewn safleoedd i gynnal gweithgaredd ymchwil arall.

Rydym yn edrych ymlaen at weld sut mae'r newidiadau newydd hyn yn ei gwneud hi'n haws cynnal ymchwil yma yng Nghymru a sicrhau adferiad cost llawn i'r GIG."

Mae eich adborth yn bwysig i ni

Am fwy o wybodaeth am y broses NCVR, ewch i'n gwefan Costio cyflymach ar gyfer ymchwil fasnachol yn y DU | Ymchwil Gofal Iechyd Cymru (healthandcareresearchwales.org)

Cysylltwch â'r Tîm Cyllid Ymchwil os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau - research-fundingsupport@wales.nhs.uk