meddyg yn siarad â chlaf

Adroddiad newydd yn amlinellu argymhellion i gefnogi a datblygu ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

4 Chwefror

Cafodd gweledigaeth newydd ar gyfer llwybrau gyrfaoedd ymchwil ei lansio heddiw pan gyhoeddwyd Hyrwyddo Gyrfaoedd Mewn Ymchwil: adolygiad o gyfleoedd ar gyfer gyrfaoedd mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi ei lunio ar y cyd gydag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Meithrin talent yng Nghymru

Mae Cymru wedi bod yn ganolog mewn rhai o’r treialon clinigol mwyaf arwyddocaol, nid yn unig yn sgil cyfnod y pandemig, ond trwy gyfrannu tuag at astudiaethau hanfodol i ganser, dementia, diabetes a chlefydau’r galon dan arweiniad rhai o ymchwilwyr mwyaf talentog Cymru. Er mwyn adeiladu ar y llwyddiant hwn, comisiynwyd adroddiad newydd i adolygu’r cyfleoedd hyfforddi a datblygu ymchwil sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’r adroddiad hwn yn amlygu’r hyrwyddwyr a’r rhwystrau ac yn cyflwyno argymhellion er mwyn gwella’r gefnogaeth ac annog rhagor o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal i ymgymryd â gyrfaoedd mewn ymchwil.

Adolygiad o’r gefnogaeth gyfredol i ymchwilwyr

Cynhaliwyd adolygiad trwyadl, yn cynnwys cyfraniadau gan nifer o ymchwilwyr ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfaoedd. Mae’r adroddiad yn gosod allan nifer o argymhellion sydd yn anelu at wella cynlluniau ariannu, cyfleoedd a hyfforddiant ar gyfer cefnogi datblygiad gyrfa gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal yng Nghymru.

Galw am gyfarwyddwr cyfadran newydd

Un o’r argymhellion allweddol oedd creu Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi ei neilltuo ar gyfer cefnogi ymchwilwyr a gwella llwybrau ymchwil yng Nghymru.

O ganlyniad, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn awr yn bwriadu penodi cyfarwyddwr i arwain y gyfadran newydd, gyda chyfrifoldeb dros y canlynol:

 - arwain adolygiad o’r cynlluniau gwobrwyo presennol

  • Creu cynlluniau ariannu newydd er mwyn cynyddu cyfleoedd a chryfhau capasiti a gallu ym maes ymchwil
  • Cydlynu gydag chyllidwyr cenedlaethol er mwyn cynyddu i’r eithaf eu gwerth a’u dylanwad yng Nghymru.

Dyma ddywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: “Fel yr amlygwyd yn yr adroddiad, rydym yn dwyn ein holl fuddsoddiadau mewn datblygu gyrfaoedd ymchwil at ei gilydd wrth sefydlu cyfadran newydd, ac mae penodi Cyfawyddwr Cyfadran yn hanfodol i’w llwyddiant.

“Rydym yn chwilio am berson llawn brwdfrydedd i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a denu a chadw darpar arweinwyr ymchwil talentog y dyfodol i weithio yng Nghymru. Mae hyn yn gam pwysig ymlaen o ran gwella capasiti a gallu ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen i’r dyfodol.”

Dyma eiriau Cyfarwyddwr Meddygol Addysg a Gwella Iechyd Cymru, yr Athro Pushpinder Mangat: “Rydym yn credu y dylai pawb sydd yn gweithio yn ein gwasanaethau gofal iechyd gael y cyfle i ddefnyddio eu profiad a’u gwybodaeth er mwyn canfod gwell dulliau o weithio, gan gynnwys cyfleoedd i staff gyfuno ymchwil gyda rolau meddygol a chlinigol.

“Bydd y gyfadran arbennig hon yn anelu at annog diwylliant ymchwil o fewn sefydliadau iechyd trwy greu amgylchedd lle bydd gweithwyr proffesiynol yn cael eu hannog i ymgymryd ag ymchwil, datblygu eu hymchwil eu hunain, ac mewn rhai achosion symud ymlaen i ddilyn gyrfa mewn ymchwil.”

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwraig Gofal Cymdeithasol Cymru: “Rydym wedi gweld llawer o fanteision pan fydd staff gofal cymdeithasol yn ymgymryd ag ymchwil, gan fod hyn yn rhoi cyfle iddynt wella gwasanaethau i bobl sydd yn dibynnu ar ofal a chefnogaeth a chreu ffyrdd newydd o’u diogelu a hyrwyddo eu hannibyniaeth a’u llesiant. Gorau po fwyaf y gallwn gefnogi gweithwyr proffesiynol i gynnwys ymchwil fel rhan o’u gwaith fel y gallwn ddiffinio’n gywir beth sy’n gweithio orau mewn gwahanol sefyllfaoedd.”

I ddarllen yr adroddiad yn llawn

Cliciwch yma i ddarllen Hyrwyddo Gyrfaoedd mewn Ymchwil: adolygiad o gyfleoedd ar gyfer gyrfaoedd mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn llawn full.

Am fwy o fanylion am swydd Cyfarwyddwr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, darllennwch y swydd ddisgrifiad yma.