“Ni allwn fod wedi cynnal fy astudiaeth heb gymorth rhwydwaith ENRICH Cymru a’r cysylltiadau y gwnes i eu datblygu yn y cartrefi gofal": Dr Zoe Lucock, dadansoddwr ymddygiad, yn sôn am rym cysylltiadau
Clywodd y dadansoddwr ymddygiad, Zoe Lucock, am rwydwaith Galluogi Ymchwil mewn Cartrefi Gofal (ENRICH) Cymru wrth astudio ar gyfer ei doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor a thrwy wneud cysylltiadau yno, bu modd iddi gynnal ymchwil sy’n newid bywydau.
Mae ENRICH Cymru, sy’n cynnwys 25 o gartrefi gofal ledled Cymru, yn helpu i gefnogi cartrefi gofal sy’n barod ar gyfer ymchwil gan ganiatáu i Zoe gynnal sawl astudiaeth ymchwil i effeithiau dadansoddi ymddygiad a datrysiadau pwrpasol ar gyfer pobl hŷn sy’n byw gyda dementia neu’r rhai sydd wedi colli’r gallu i gyfathrebu drwy siarad.
Dywedodd Zoe Lucock, ynghyd â’i phartner busnes Emma Williams, a greodd Positive Ageing Consultancy & Training i helpu’r rhai hynny â dementia sy’n wynebu problemau ymddygiadol: "Gwnaeth defnyddio rhwydwaith ENRICH Cymru roi dull dynol i fy ymchwil.
"Clywais yn gyntaf am y rhwydwaith, sy’n cefnogi ymchwil mewn cartrefi gofal, drwy e-bost a gefais wrth astudio ar gyfer fy noethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor. Roedd yn ffordd berffaith i mi gael mynediad i gartrefi gofal a chynnal fy astudiaeth. Cyflwynais fy ngwaith yng nghynhadledd lansio ENRICH Cymru a ffynnodd y berthynas oddi ar hynny.
"Cysylltodd rhai cartrefi gofal â mi a oedd â diddordeb mewn hwyluso ymchwil ar ôl clywed am fy ymchwil i, gan obeithio cael cyfle i fanteisio ar ofal a thriniaeth arloesol. Mae fy ngwaith yn ymwneud â dadansoddi ymddygiad pobl hŷn sydd wedi colli’r gallu i siarad a dod o hyd i ffyrdd o barhau i gynnig dewisiadau iddyn nhw yn eu gofal o ddydd i ddydd. Roedd Cartref Gofal Aingarth yn Llandrillo-yn-Rhos wedi amlygu rhai heriau gyda hyn ac roedden nhw’n awyddus i gymryd rhan.
"Gwnes i ddod yn rhan naturiol o’r lle yno a gweithiais yn agos gyda dyn a oedd yn ei chael hi’n anodd cyfathrebu ac a oedd yn aml yn teimlo’n rhwystredig. Trwy ein hasesiadau ymddygiadol, gwnaethom ddarganfod mai’r ffordd orau o gyfathrebu oedd darparu dewisiadau mewn fformat ysgrifenedig penodol. Gall y dull hwn helpu i wella ei fywyd drwy ei alluogi i wneud penderfyniadau syml ond ystyrlon, fel beth i’w gael i frecwast neu sut yr hoffai wisgo yn y bore.
Rhoddodd hyn lais iddo ar ei ofal, ond rhoddodd hefyd yr urddas y mae’n ei haeddu iddo.”
Cafodd rhwydwaith Galluogi Ymchwil mewn Cartrefi Gofal (ENRICH) Cymru ei sefydlu yn 2018 i gefnogi a hwyluso twf ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol sy’n newid bywydau mewn cartrefi gofal ledled Cymru.
Ers ei greu, mae’r rhwydwaith wedi recriwtio 22 o gartrefi gofal ledled Cymru ac wedi cefnogi’r gwaith o ddarparu a hwyluso 15 astudiaeth ymchwil. Gyda momentwm ac arweiniad clir gan y sector cartrefi gofal ac aelodau o’r cyhoedd, mae ENRICH Cymru yn dod yn rhwydwaith sy’n tyfu mewn pwysigrwydd ledled y wlad.
Ychwanegodd Zoe: "Ni allwn fod wedi cynnal fy astudiaeth heb gymorth ENRICH Cymru a’r cysylltiadau y gwnes i eu datblygu yn y cartrefi gofal. Mae’n gam mawr nid yn unig i ni ymchwilwyr ond i reolwyr cartrefi gofal na fydden nhw’n gwybod ble i ddechrau hwyluso astudiaethau."
Dywedodd Hayley Davies, Rheolwr Cartref Gofal Aingarth: "Rydym ni wedi bod yn aelod o ENRICH Cymru ers tua 2018. Gwnaethom ni ymuno yn wreiddiol gan ein bod ni eisiau bod yn rhan o ymchwil, i ddysgu oddi wrth yr ymchwilwyr ac i wella sgiliau ein tîm.
"Helpodd ENRICH Cymru i’n cysylltu ni â Zoe a’r tîm ymchwil a’n cefnogi ni, felly doedden ni ddim yn teimlo ar ein pen ein hunain yn y broses. Cafodd ychydig o amser ei fuddsoddi ar y dechrau i sicrhau diogelwch ein cleientiaid, ond o hynny ymlaen roedd yn rhywbeth yr oedd y staff a’r preswylwyr i gyd yn edrych ymlaen ato. Gwnaeth Zoe a’r tîm ymgartrefu a gwnaeth y preswylwyr elwa o ryngweithio unigol a dysgodd y staff brosesau ac arferion newydd i wella’u gofal ar gyfer y rhai â heriau penodol.
"Mae pobl yn meddwl bod ymchwil yn rhywbeth i’w ofni, a bod pobl yn dod i mewn i’ch barnu chi, ond nid yw hynny’n wir. Nid mewn labordai y caiff pob darn o ymchwil ei gynnal a phwy a ŵyr, gallech chi fod yn rhan o’r cam mawr nesaf a all nid yn unig helpu eich cleientiaid ond cannoedd o bobl, o bosibl."
Dywedodd Stephanie Green, Cydlynydd rhwydwaith cartrefi gofal ENRICH Cymru: "Mae hon yn enghraifft wych o’r rheswm dros sefydlu ENRICH Cymru yng Nghymru, i ddod ag ymchwilwyr a chartrefi gofal at ei gilydd i gynnal ymchwil sy’n newid bywydau.
"Rydym ni’n llawn cyffro i barhau i dyfu’r rhwydwaith a chefnogi mwy o ymchwilwyr fel Zoe."