Nicola Williams
Cyfarwyddwr Cefnogi a Chyflenwi Cenedlaethol
Mae Nicola yn ymchwilydd gweithredol ers dros 20 mlynedd, a dechreuodd ei gwaith yn cyflwyno prosiectau a rhaglenni ymchwil mewn gofal sylfaenol ac iechyd cyhoeddus cyn symud i arwain uned ymchwil iechyd cyhoeddus.
Cyn iddi gael ei swydd yng Nghymru, bu Nicola yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu mewn ymddiriedolaeth acíwt fawr yn Lloegr gan weithio ochr yn ochr â hynny fel cynghorydd polisi a newid i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a’r Awdurdod Ymchwil Iechyd. Mae Nicola hefyd yn hyfforddwr arwain a goruchwyliwr hyfforddi profiadol.