woman_posing_with_bag_against_green_backdrop

"Nid yw'r hyn rwy'n mynd drwyddo yn normal": yr astudiaeth sy'n rhoi llais i bobl sydd â Phoen Mislif Difrifol

22 Rhagfyr

Nod astudiaeth newydd yw archwilio effaith poen mislif difrifol.

Mae Poen Mislif Difrifol yn ei gwneud hi'n anodd canolbwyntio, symud a chysgu a gall olygu colli'r ysgol neu'r gwaith a methu â chymdeithasu. Mae'n cael ei brofi gan hyd at 29% o ferched, menywod a phobl a neilltuwyd yn fenywod adeg eu geni.

Mae'r Astudiaeth Nid yw Poen Mislif Difrifol yn Normal - SPPINN (Severe Period Pain Is Not Normal), sydd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Caerdydd a'i ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn ceisio archwilio effaith Poen Mislif Difrifol ar draws gwahanol gymunedau a grwpiau oedran. Ar ôl ei chwblhau, bydd yr astudiaeth SPPINN yn cynhyrchu argymhellion i wella addysg a gofal ynghylch y cyflwr. 

Mewn cyfweliad gyda'r BBC, dywedodd y prif ymchwilydd, Dr Robyn Jackowich,

Yn sicr mae angen am hyn, o ystyried pa mor gyffredin ydyw a'r effaith fawr y mae’n ei gael ar y bobl sy'n ei brofi.

Nod yr astudiaeth yw deall a gwella sut mae poen mislif difrifol yn cael ei nodi a'i reoli ar draws y cwrs bywyd atgenhedlu ledled Cymru. Drwy gyfuno gwybodaeth o gyfweliadau, data gofal iechyd a data addysg ledled Cymru, gallwn helpu i greu argymhellion ar gyfer yr hyn sydd angen digwydd nesaf i wella addysg a gofal am boen mislif difrifol."

Siaradodd y BBC hefyd â'r cyfranogwr astudio Emily Handstock, 25, o Aberdâr, sydd wedi brwydro yn erbyn poen mislif difrifol ers iddi fod yn 15 oed. Dywedodd Emily:

Nid yw'r hyn rwy'n mynd drwyddo yn normal, ond mae'n cael ei normaleiddio. Trwy gydol fy arddegau dywedwyd wrthyf 'Rwyt ti ond yn profi mislif poenus.  Mae popeth yn iawn. Cymera ychydig o Ibuprofen a charia ‘mlaen â phethau."

"Mae'r doll feddyliol hefyd yn ofnadwy, rydych yn teimlo fel na fydd pobl yn eich credu chi ac yn poeni am fod yn ddigon da i'r ysgol neu'r gwaith."

"Dwi wedi cael fy nerbyn i'r ysbyty, dwi wedi cael morffin a phrin mae hynny wedi cyffwrdd â'r poen."

Mae cyd-ymchwilwyr yr astudiaeth yn cynnwys grŵp eiriolaeth menywod, 'Fair Treatment for Women of Wales (FTWW)', a oedd yn allweddol wrth sefydlu cyflwyno nyrsys endometriosis arbenigol yng Nghymru.

Mae'r astudiaeth bellach yn ei hail gam, gydag ymchwilwyr yn cyfweld pobl rhwng 13 a 51 oed sydd â PMD, eu teulu a'u gofalwyr, darparwyr gofal iechyd ac addysgwyr.

Yn ddiweddar, lansiodd Llywodraeth Cymru ei Gynllun Iechyd Menywod hir-ddisgwyliedig, sy'n weledigaeth 10 mlynedd i wella gofal iechyd i fenywod yng Nghymru. Mae'n cynnwys ymrwymiadau i ariannu ymchwil ar gyfer cyflyrau iechyd menywod ac i sefydlu canolfannau iechyd menywod ledled Cymru erbyn 2026.  Bydd meddygon hefyd yn cael eu hannog i ofyn i fenywod am eu hiechyd mislifol yn ystod yr apwyntiadau presennol.

Aeth Dr Jackowich yn ei flaen:  "Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru a GIG Cymru i flaenoriaethu iechyd a chyflyrau mislifol sy'n gysylltiedig â phoen mislif difrifol yn y Cynllun Iechyd Menywod yn galonogol iawn. Rydym yn gobeithio y bydd canfyddiadau astudiaeth SPPINN yn helpu GIG Cymru i gyflawni nodau'r Cynllun Iechyd Menywod, drwy ddeall yn well yr hyn sydd ei angen mewn gofal iechyd ac addysg er mwyn cefnogi'n well yng Nghymru unigolion sydd â phoen mislif difrifol."

Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:  "Byddai dealltwriaeth gliriach o sut mae poen mislif difrifol yn cael ei nodi a'i reoli yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl ledled Cymru sy'n byw gyda'r cyflwr, ac edrychwn ymlaen at ddilyn cynnydd yr astudiaeth hon ac olrhain ei photensial i wella'r llwybrau triniaeth a'r addysg yn y maes hwn." 

Darganfyddwch fwy am SPPINN trwy gofrestru ar gyfer cylchlythyr yr astudiaeth neu drwy ddilyn yr astudiaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.