Niferoedd yn manteisio ar frechiad (rhwystrau/ hwyluswyr ac ymyriadau) mewn oedolion o gymunedau heb eu gwasanaethu’n ddigonol neu anodd i’w cyrraedd

Beth allwn ni ei wneud i annog brechu yn erbyn COVID-19 ymhlith grwpiau lle mae’r cyfraddau brechu’n isel?                                                                

Mae brechu yn erbyn COVID-19 yn un o’r ffyrdd hanfodol o ddod â’r pandemig presennol dan reolaeth. Mae ymchwil yn dangos bod rhai grwpiau penodol yn llai tebygol o gael eu brechu. Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, cymunedau teithwyr, ffoaduriaid/ ceiswyr lloches a phobl ddigartref. Mae angen i ni ddeall beth sy’n atal pobl rhag cael eu brechu a beth sy’n eu hannog i gael eu brechu. Bydd hyn yn ein helpu i gynllunio gwaith cyflenwi brechiadau mewn ffordd sy’n annog mwy o bobl i ddod i gael eu brechu.  Rydyn ni eisiau i nifer fawr o’r boblogaeth gael eu brechu a chynyddu diogelwch pawb.

Mae’r dystiolaeth sy’n ein helpu i ddeall pam nad yw pobl yn cael eu brechu’n gyfyngedig ar hyn o bryd. Roedd mwyafrif y dystiolaeth a ddaeth i’r fei yn ymwneud â brechlynnau eraill ac felly mae’n bosibl nad yw’n berthnasol i’r sefyllfa sydd ohoni.  Y gobaith oedd y gallen ni gael rhagor o dystiolaeth o astudiaeth a oedd ar y gweill ar adeg yr adolygiad hwn. Fodd bynnag, ni ddaeth yr astudiaeth hon, a oedd yn edrych ar gamau gweithredu i wella nifer y bobl sy’n manteisio ar frechiadau COVID-19 ym mhoblogaeth Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol y DU, i ben yn brydlon ac felly nid yw wedi’i chynnwys yn yr adolygiad hwn.

Darganfyddiadau Allweddol:

Dyma’r pethau sy’n atal pobl rhag cael eu brechu:

  • Diffyg gwybodaeth
  • Pryderon ynglŷn â diogelwch brechlynnau a sgil-effeithiau posibl
  • Drwgdybio’r llywodraeth ac asiantaethau iechyd cyhoeddus
  • Rhwystrau ieithyddol
  • Credu eu bod nhw, yn bersonol, mewn risg isel
  • Ei chael hi’n anodd cyrraedd lle bynnag y mae’r brechlyn yn cael ei roi
  • Brechlynnau ddim yn rhan gyffredin o’u diwylliant

Dyma’r pethau sy’n ei gwneud hi’n fwy tebygol y bydd pobl yn cael eu brechu:

  • Derbyn gwybodaeth am y brechlyn a chael rhywun y maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw i’w hannog i gael eu brechu
  • Cyfathrebiadau yn eu hiaith nhw ac sy’n gweddu i’w diwylliant
  • Cyfieithwyr mewn clinigau brechu
  • Ymgyrchoedd addysgol yn y gymuned
  • Cynnal clinigau yn y gymuned mewn lleoedd y mae pobl yn debygol o fynd iddyn nhw, er enghraifft, cael clinigau mewn banciau bwyd a llochesau ar gyfer pobl dlawd a digartref
  • Canolfannau brechu mewn lleoedd sy’n hawdd i’w cyrraedd.

Goblygiadau i bolisi ac arfer

Mae ansawdd y dystiolaeth o’r hyn sy’n annog pobl i gael eu brechu’n isel. Felly, mae angen i’r llywodraeth ac awdurdodau iechyd fabwysiadu dull aml-agwedd o weithredu. Dylen nhw weithio gydag arweinwyr cymunedau fel pobl y gellir ymddiried ynddyn nhw i ddarparu gwybodaeth i’w cymunedau ac annog pobl i gael eu brechu.

Darllenwch yr adroddiad llawn

Dyddiad:
Cyfeirnod:
RES00006