NMCH yn ennill am ei gwaith ar gynnwys y cyhoedd mewn ymchwil
21 Tachwedd
Enillodd y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NMCH) wobr Cyflawniad Cynnwys y Cyhoedd yng nghynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2018 yr wythnos diwethaf am ei gwaith arloesol ar gynnwys y cyhoedd mewn ymchwil iechyd meddwl.
Cyflwynodd yr Athro Catherine Robinson, arweinydd academaidd PÂR a Bethan Edwards, aelod o’r cyhoedd, y prosiect buddugol ‘Partneriaeth mewn Ymchwil (PÂR)’ a oedd ymhlith 14 o geisiadau eraill gan seilwaith Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Drwy PÂR, menter sy’n creu cyfleoedd i ofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl gyfrannu at ymchwil, llwyddodd y Ganolfan i ddangos sut mae’r prosiect yn cynnwys y rheini sydd â phrofiadau uniongyrchol o iechyd meddwl ledled Cymru.
Mae PÂR yn galluogi ymchwilwyr i ddeall sut mae llais y rheini sydd â phrofiadau uniongyrchol yn gallu gwella ymchwil a gofal yn y dyfodol, ac mae’n amlygu sut gall y grŵp weithio gydag ymchwilwyr i ystyried cynnwys y cyhoedd yn y cylch ymchwil cyfan, o'r dylunio i’r lledaenu.
Dywedodd Bethan: “Rydw i wrth fy modd bod PÂR wedi ennill gwobr Cyflawniad Cynnwys y Cyhoedd eleni. Mae’r Ganolfan wedi gweithio’n galed iawn dros y flwyddyn ddiwethaf i sicrhau bod PÂR a chynnwys y cyhoedd yn cael eu hymgorffori yn y ganolfan.
“Fel aelod o PÂR, rydw i’n edrych ymlaen at ddatblygu a chynyddu i ba raddau y caiff y cyhoedd eu cynnwys mewn ymchwil iechyd meddwl gyda'r Ganolfan”.
Cyflwynodd Michael Bowdery a Carys Thomas, cyd-gyfarwyddwyr dros dro Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y wobr i’r Athro Ian Jones, cyfarwyddwr y Ganolfan, a oedd yn cynrychioli’r Athro Robinson, a Bethan Edwards yn Stadiwm SWALEC, Caerdydd.
Dywedodd yr Athro Jones: “Mae gwrando ar brofiadau pobl yn allweddol i bopeth a wnawn yn y Ganolfan. Rydyn ni’n credu bod ymchwil yn fwyaf llwyddiannus os yw’n wir bartneriaeth rhwng academyddion, clinigwyr ac, yn bwysicaf oll, y rheini sy’n arbenigwyr drwy brofiad.
“Fodd bynnag, rydyn ni’n cydnabod nad yw’n hawdd. Rydyn ni felly’n hynod falch o’r gwaith caled a’r cynnydd mae grŵp PÂR wedi’i wneud, ac rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi cael y gydnabyddiaeth hon gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae mwy i’w gyflawni a mwy o gynnydd i’w wneud o hyd, ond mae’r wobr hon yn arwydd da ein bod ni, gyda’n gilydd, ar y trywydd iawn”.
Cafodd dau brosiect arall a ddaeth yn agos iawn i’r brig eu crybwyll yn y seremoni wobrwyo:
- Dr Kym Thorne, arweinydd PPI uned treialon Abertawe ac Aderinola Omale, aelod o’r cyhoedd, am eu cyflwyniad ‘Cyngor Poblogaeth ar gyfer Pwyllgor Ymchwil’.
- Dr Andy Carsons-Stevens, Prifysgol Caerdydd, ac Anthony Chuter, aelod o’r cyhoedd, am eu cyflwyniad ‘Grŵp ymchwil diogelwch cleifion: Gwella diogelwch cleifion mewn gofal sylfaenol’
Dywedodd Bob McAlister, a oedd yn rhan o banel beirniaid y wobr: ‘Roedd hi’n braf gweld cynifer o bobl o bob rhan o’r seilwaith yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth unwaith eto. Cefais fy synnu gan ansawdd a gwreiddioldeb rhai o’r prosiectau. Roeddent yn dangos bod aelodau o’r cyhoedd yn cael eu cynnwys, yn ystyrlon, mewn penderfyniadau ymchwil.