Adroddiad Arolwg Cydnerthedd Treialon Clinigol wedi’i gyhoeddi
22 Ionawr
Mae’r Gyfadran Meddygaeth Fferyllol (FPM) wedi cyhoeddi ei Arolwg Cydnerthedd Treialon Clinigol.
Ymgymerwyd â’r arolwg i ddeall y pwysau ar dreialon clinigol yn sgil y pandemig COVID-19, a’r addasu a’r arloesi y mae’r rheini sy’n gweithio ym maes meddygaeth fferyllol wedi gorfod ei wneud o ganlyniad.
Mae’r adroddiad wedi’i seilio ar ganlyniadau arolwg o aelodau’r FPM a’r rheini nad ydyn nhw’n aelodau.
Darganfyddiadau allweddol:
- Dywedodd dros hanner y rheini a ymatebodd eu bod nhw yn bersonol, neu eu cwmni, wedi bod yn datblygu triniaethau neu frechlynnau ar gyfer COVID-19
- Dywedodd 79% o bawb a ymatebodd fod y pandemig wedi effeithio ar raglenni ymchwil glinigol eraill yn eu sefydliad
- Dywedodd bron pawb a ymatebodd eu bod wedi defnyddio technolegau rhithiol neu ddigidol i sicrhau bod treialon yn dal i redeg ac i gadw cleifion ac ymchwilwyr yn ddiogel
- Canmolodd y rheini a ymatebodd o’r sector fferyllol a’r sector gwasanaethu gyflymder a hyblygrwydd asiantaethau rheoleiddio rownd y byd
- Dywedodd bron hanner y rheini a ymatebodd fod y pandemig wedi effeithio ar weithdrefnau gweithredu safonol eu sefydliad ar gyfer rhaglenni clinigol a gwaith dylunio treialon
Gellir darllen yr adroddiad llawn ar wefan y Gyfadran Meddygaeth Fferyllol.