
Cwrs Adolygu Systematig Nottingham
Nod Cwrs Adolygu Systematig Nottingham yw galluogi’r cyfranogion i ddod yn fedrus mewn datblygu ac ymgymryd ag adolygiad systematig o ymyriadau ar arddull Cochrane. Gan mai cwrs rhagarweiniol yw hwn, nid oes angen bod â gwybodaeth flaenorol o adolygu systematig.
Mae’r cwrs yn defnyddio cyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau tiwtorial rhyngweithiol seiliedig ar lyfrgell, gyda gwaith ymarferol wrth orsafoedd cyfrifiadurol yn defnyddio meddalwedd RevMan ac Endnote. Review Manager (RevMan) yw’r feddalwedd a ddefnyddir i baratoi a chynnal Adolygiadau Cochrane.
Beth sy’n ei wneud yn wahanol?
Cwrs ymarferol yw hwn, gyda ffocws mawr ar ddysgu ymarferol ac sy’n seiliedig ar gyfrifiadur, a gyflenwir trwy arddangosiadau, ymarferion ymarferol tywysedig a dosbarthiadau tiwtorial wedi’u hwyluso. Darperir holl ddeunyddiau’r cwrs mewn fformat electronig
Mae tiwtoriaid a hwyluswyr profiadol, sy’n arbenigo yn eu meysydd eu hunain, wrth law i roi cyngor ymarferol ac unigol ar ymgymryd ag adolygiadau systematig sy’n ddigon da i’w cyhoeddi. Mae yna gyfle i rwydweithio.
Nid oes angen bod â gwybodaeth flaenorol ond, er mwyn sicrhau eich bod yn dysgu cymaint â phosibl, gofynnwn ichi fod wedi ystyried pwnc (PICO) eich adolygiad eich hun cyn y cwrs, gan fod yna gyfle i drafod a datblygu cydrannau eich protocol eich hun.
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu
Nodi ac Egluro Cwestiynau eich Adolygiad
Deall a Datblygu Strategaethau Chwilio
Rheoli Canlyniadau Chwiliadau Systematig
Tynnu Data ac Asesu Risg Rhagfarn Astudiaethau a Gynhwysir
Deall a chynnal Gwaith Cyfuno Data a Dynnir, Rhoi’r Fethodoleg ar Waith
Cynnal Adolygiadau yn Annibynnol.
Siaradwyr:
Athro Cyswllt Clinigol Alexia Karantana, Athro Cyswllt Clinigol mewn Llawdriniaeth y Llaw, Cyfadran Meddygaeth a Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Nottingham.
Ms Judy Wright, Uwch Arbenigwr Gwybodaeth, Cyfadran Meddygaeth ac Iechyd, Sefydliad Gwyddorau Iechyd Leeds, Prifysgol Leeds.
Yr Athro Sarah Lewington, Cyfarwyddwr Gwyddonol- MSc mewn Gwyddor Iechyd Byd-eang, Prifysgol Rhydychen.
Ms Jun Xia, Cyd-Gyfarwyddwr Canolfan GRADE Nottingham-Ningbo, Prifysgol Nottingham-Ningbo.
Dr Douglas Grindlay, Arbenigwr Gwybodaeth, Cyfadran Meddygaeth a Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Nottingham, Nottingham, y DU.
O ystyried sefyllfa barhaus COVID19, mae’r Brifysgol yn gofyn i fynychwyr ddarparu eu gliniadur eu hunain. Gallwn eich sicrhau bod yr holl ragofalon angenrheidiol yn cael eu cymryd ac y bydd protocolau diogelwch swyddogol ynglŷn â chadw pellter cymdeithasol ac ati’n cael eu dilyn. Sylwch, os bydd yn rhaid canslo’r cwrs oherwydd COVID-19, rhoddir opsiwn i gael ad-daliad llawn neu neilltuo lle mewn cwrs wedi’i aildrefnu.
Pris Llawn - £895.00
I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i wefan y cwrs.