Cyhoeddi €1.75 biliwn o gyfleoedd cyllid Ewropeaidd
23 Mawrth
Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyhoeddi fersiwn ddrafft o Raglen Waith Iechyd Horizon Ewrop ar gyfer 2021-2022, gyda €1.75 biliwn o gyfleoedd cyllid ar gael.
Mae'r rhaglen waith wedi'i rhannu'n 6 maes gwahanol o'r enw cyrchfannau. Mae pob cyrchfan yn cynnwys pynciau galw amrywiol:
- Cyrchfan 1 – Cadw’n iach mewn cymdeithas sy'n newid yn gyflym (€289 miliwn)
- Cyrchfan 2 – Byw a gweithio mewn amgylchedd sy'n hyrwyddo iechyd (€350 miliwn)
- Cyrchfan 3 – Mynd i'r afael â chlefydau a lleihau baich clefydau (€489.5 miliwn)
- Cyrchfan 4 – Sicrhau mynediad at ofal iechyd arloesol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel (€240 miliwn)
- Cyrchfan 5 – Datgloi potensial llawn offer, technolegau ac atebion digidol newydd ar gyfer cymdeithas iach (€270 miliwn)
- Cyrchfan 6 – Cynnal diwydiant iechyd arloesol, cynaliadwy ac sy'n gystadleuol yn fyd-eang (€113 miliwn)
Rhagor o wybodaeth
Cynhelir gweminar ddydd Llun 22 Mawrth i ddarparu rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Waith Iechyd. I gofrestru ewch i dudalen we'r digwyddiad.
I gofrestru i dderbyn diweddariadau rheolaidd ar gyllid Iechyd Horizon Ewrop ewch i wefan Innovate UK.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chyllid Iechyd Horizon Ewrop, cysylltwch â:
- Jo Frost (ymholiadau diwydiant): ncp-health@innovateuk.ukri.org
- Katie Dingley (ymholiadau academaidd): ncp@mrc.ukri.org