Digwyddiad yn cydnabod staff y GIG yng Nghymru a gynorthwyodd ac a gyflwynodd ymchwil yn ystod y pandemig ac yn edrych i'r dyfodol
20 Ebrill
Cafodd cyfraniad staff cymorth a chyflawni ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol Cymru ei gydnabod mewn digwyddiad arbennig yr wythnos diwethaf.
Daeth bron i 200 o staff o GIG Cymru, prifysgolion a sefydliadau ymchwil eraill ledled Cymru sydd wrth wraidd ymdrech i gyflawni ymchwil COVID-19 ledled y DU at ei gilydd i fyfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf ac edrych tua'r dyfodol.
Roedd Diwrnod Cymorth a Chyflawni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2021 yn ddigwyddiad ar-lein i'r rhai sy'n gweithio yn y gwasanaeth Cymorth a Chyflawni, a gynhaliwyd brynhawn dydd Mercher 21 Ebrill a bore dydd Iau 22 Ebrill.
Amlygodd y digwyddiad gyflawniadau allweddol o'r flwyddyn ddiwethaf, fel sut y sefydlwyd cydweithrediadau ar draws y gymuned ymchwil o fewn wythnos i ddarparu treialon brechu COVID-19 yng Nghymru.
Cadeiriwyd y digwyddiad gan Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Chyflawni, ac fe wnaeth y cyflwyniadau ddathlu effaith ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn ystod y pandemig.
Archwiliodd Carys Thomas, Pennaeth Polisi Llywodraeth Cymru, a'r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yr hyn a ddysgwyd o'r pandemig a gweledigaeth newydd Llywodraeth y DU ar gyfer dyfodol cyflawni ymchwil glinigol. Rhoddodd Jayne Goodwin, Pennaeth Cenedlaethol Cyflawni Ymchwil, a Dr Andrew Freedman a Dr Orod Osanlou, Prif Ymchwilwyr treialon brechlyn Janssen a Novavax yn y drefn honno, drosolwg o'r broses o roi’r brechlyn COVID-19 yng Nghymru.
Pwysleisiodd trafodaethau pellach gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR), Iechyd a Gofal Digidol Cymru, a'r Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) bwysigrwydd cydweithio ledled Cymru a gweddill y DU.
Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cefnogi a Chyflawni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
"O ddechrau'r pandemig ein nod oedd dod o hyd i driniaethau ar gyfer COVID-19 sy'n gweithio cyn gynted â phosibl i achub bywydau cleifion. Mae'r digwyddiad hwn yn cydnabod yr holl bethau hanfodol a ddysgwyd o'r flwyddyn ddiwethaf ac yn edrych ar ddyfodol darparu ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
"Ar ôl blwyddyn hynod, rwy'n ddiolchgar i gynifer o bobl am y gefnogaeth y maen nhw wedi'i rhoi i ymchwil a'r aberth a wnaed, p'un a ydynt wedi gweithio ar COVID-19 neu wedi cadw ymchwil hanfodol arall i fynd. Rydym wedi darganfod y gallwn weithio ar raddfa a chyflymder nad oeddem erioed wedi credu eu bod yn bosibl o'r blaen. Mae wedi bod yn gyffrous gweld pa mor gyflym y mae astudiaethau ymchwil wedi'u sefydlu ac yna wedi cyflawni canlyniadau sydd wedi gwella iechyd a lles pobl yng Nghymru."
Dywedodd yr Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
"Yr unig ffordd allan o'r pandemig hwn fu drwy ymchwil. Mae cymaint ar draws y sector iechyd a gofal ac mewn prifysgolion wedi gweithio'n eithriadol o galed i gyflwyno astudiaethau newydd a thrwy'r digwyddiad hwn rydym yn dod â'r bobl hynny at ei gilydd i ddweud diolch.
"Ni fu ymchwil erioed yn fwy gweladwy ac mae'n bwysicach nawr nag erioed o'r blaen. Yr her nesaf fydd cadw’r momentwm hwn i fynd. Wrth i ni edrych y tu hwnt i'r pandemig, rydym eisiau i ymchwil iechyd a gofal barhau i gael ei ystyried yn ddefnyddiol, yn bwysig ac yn ganolog i ofal cleifion."
Yn ystod y digwyddiad, cyhoeddwyd pedwar enillydd Gwobrau Effaith Cymorth a Chyflawni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae'r gwobrau hyn yn dathlu staff o'r Gwasanaeth Cymorth a Chyflawni sydd wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyl i wneud i ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ddigwydd dros y 12 mis diwethaf.
Eleni, rhoddwyd Gwobr Arbennig am Gyfraniad Rhagorol i Gymorth a Chyflawni, i Jayne Goodwin, Pennaeth Cyflawni Ymchwil yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, am yr ymrwymiad eithriadol y mae hi wedi'i ddangos i arwain a chyflawni ymchwil COVID-19 hanfodol.
Dywedodd Jayne: "Rydw i yn ddiolchgar iawn ac yn falch o dderbyn y wobr arbennig hon a chlywed geiriau caredig y rhai sydd wedi fy enwebu. Mae wedi bod yn flwyddyn heriol i weithio ym maes cyflawni ymchwil iechyd a gofal, ond ni fu erioed flwyddyn lle’r wyf wedi bod yn fwy balch o fod yn nyrs ymchwil nac yn fwy balch o fod o Gymru."
Dewch o hyd i'r cyflwyniadau o'r Diwrnod Cymorth a Chyflawni yma.
Rhestr lawn enillwyr Gwobrau Effaith Cymorth a Chyflawni:
Gwobr Tîm Ymchwil Rhagorol
Tîm Fferylliaeth Treialon Clinigol
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Gwobr Rhagoriaeth i Weithiwr Ymchwil Proffesiynol Rhagorol
Anne Pennington
Rheolwr Treialon, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Gwobr Cymru'n Un
Debra Evans a Suzanne Richards
Nyrsys Ymchwil, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Gwobr Arbennig am Gyfraniad Rhagorol i Gymorth a Chyflawni
Jayne Goodwin, Pennaeth Cyflawni Ymchwil, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru