Meddyg gwrywaidd yn dal clust argraffedig 3D wrth ymyl pen merch ifanc

Bydd merch yng Nghymru yn gyntaf i elwa o ymchwil arloesol i bioprintio 3D gan ddefnyddio celloedd dynol

19 Gorffennaf

Disgwylir i ferch 10 oed o Gymru gael clust newydd wedi'i hadeiladu mewn labordy diolch i brosiect ymchwil arloesol gwerth £2.5 miliwn yn Abertawe, wedi'i ariannu gan The Scar Free Foundation ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae gan Radiyah, o Aberdaugleddau, Sir Benfro, gyflwr o'r enw microtia ac fe'i ganed heb glust chwith wedi'i ffurfio'n iawn.

Nawr mae hi'n barod i gael clust newydd ar ôl i wyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe ddechrau defnyddio argraffu 3D i adeiladu cartilag dynol.

Mae'r dechnoleg impiad croen gyfredol ar gyfer ailadeiladu'r glust yn cynnwys gadael craith ar y benglog a'r fron, lle byddai cartilag yn cael ei gymryd. Trwy ddatblygu'r glust yn y labordy, bydd Radiyah yn parhau i fod yn rhydd o graith.

Dywedodd ei thad, Rana, y byddai'n "helpu i gynyddu ei hyder".

Nod y rhaglen tair blynedd ym Mhrifysgol Abertawe yw chwyldroi gallu llawfeddygon i ail-greu cartilag trwyn a chlust.

Y gobaith yw y bydd y wyddoniaeth yn cael ei defnyddio i drin pobl a anwyd heb rannau o'r corff yn y dyfodol neu sydd â chreithiau wyneb o ganlyniad i losgiadau, trawma neu ganser.

Mae pobl heb glustiau na thrwynau datblygedig llawn wedi dweud wrth ymchwilwyr y byddai'n well ganddynt i'w meinwe eu hunain gael ei defnyddio i'w hailadeiladu yn lle prostheses plastig sy'n bodoli eisoes.

Cartilag yw'r prif fath o feinwe gyswllt yn y corff sy'n darparu fframwaith i strwythur esgyrn ddatblygu.

Bydd bôn-gelloedd claf yn cael eu tyfu ar y strwythur cartilag i baratoi ar gyfer ailadeiladu wyneb.

Bydd y broses hon hefyd yn osgoi'r angen i fynd â chartilag o fannau eraill yn y corff ac felly'n lleihau unrhyw greithio pellach.

Mae gan un o bob 100 o bobl yn y DU wahaniaeth wyneb sylweddol, a gall hyn gael effaith ddwys ar iechyd meddwl cleifion.

Bydd yr ymchwil yn cael ei gyfuno ag astudiaeth fwyaf yn y byd o bobl sy'n byw gyda chreithiau wyneb i asesu'r effeithiau seicogymdeithasol ar gleifion - o ran profiadau pryder neu iselder ysbryd - fel y gellir datblygu strategaethau gofal iechyd effeithiol a'u targedu'n briodo.

Dywedodd yr Athro Iain Whitaker, Arweinydd Arbenigedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer llawfeddygaeth, a Chadeirydd Llawfeddygaeth Blastig yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe:

Rwy’n ddiolchgar am y buddsoddiad a’r gefnogaeth sylweddol hon gan The Scar Free Foundation ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a fydd yn cyflymu ein hymdrechion ymchwil parhaus i gynnig opsiynau triniaeth arloesol i gleifion a recriwtio ymchwilwyr pellach o'r radd flaenaf i Gymru.

Bydd trosi’r rhaglen ymchwil hon yn llwyddiannus yn trawsnewid dyfodol llawfeddygaeth, gan gael gwared ar yr angen i drosglwyddo meinwe o un rhan o’r corff i un arall ac osgoi’r boen a’r creithio cysylltiedig.”

Dywedodd Pennaeth Rhaglenni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Michael Bowdery:

Mae gan y rhaglen arloesol hon y potensial i newid bywydau pobl ledled y byd. Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â The Scar Free Foundation i ariannu ymchwil sy'n arwain y byd, a allai, o dan arweinyddiaeth yr Athro Whitaker, wneud cymaint o wahaniaeth.”