Michael Bowdery

Michael Bowdery

Pennaeth Rhaglenni

Michael sy’n gyfrifol am oruchwylio cynlluniau ariannu ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, seilwaith datblygu ymchwil, gweithio mewn partneriaeth yn y DU (cyfleoedd ariannu ymchwil), mentrau trawsariannu a monitro cyllidebau. Ers 2016, mae wedi cynrychioli Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar y Fforwm Arianwyr Sicrhau Gwerth mewn Ymchwil (EViR) rhyngwladol. Ar hyn o bryd, mae’n gadeirydd Grŵp Llywio EViR (Sicrhau gwerth mewn ymchwil - EViR).

Mae gan Michael hefyd saith mlynedd o brofiad ymchwil gweithredol fel seicolegydd ymddygiad yn yr Ysgol Seicoleg, Prifysgol Cymru Bangor. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys datblygu ac addasu dewisiadau bwyd plant ac agweddau ar foeseg athronyddol ac athroniaeth foesol. Mae ef hefyd wedi gweithio i Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Abertawe ac mae ganddo brofiad o weithio gyda phlant ag anableddau dysgu ac ymddygiad heriol mewn lleoliadau gofal, chwarae ac addysgol.  

Mae Michael hefyd wedi gweithio fel swyddog cyfryngau gyda chyfrifoldeb am gyswllt â’r cyfryngau a rheoli gwefan y Prif Swyddog Meddygol. Mae ganddo brofiad o reoli argyfwng, drwy secondiadau i Adran Amaethyddiaeth Llywodraeth Cymru a Thîm Ymholiadau Clwy’r Traed a’r Genau.


Yn y newyddion:

Lleddfwch y boen yn eich cymalau gartref: astudiaeth newydd sy’n ymchwilio i fuddion rhaglen ffisiotherapi ar-lein (Hydref 2022)

£6.4 miliwn i gefnogi ymchwil gofal cymdeithasol ac iechyd hanfodol yng Nghymru (Hydref 2022)

Dyfarnu bron i £6.5 miliwn i ymchwil achub bywyd yng Nghymru (Hydref 2022)

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n bwriadu buddsoddi hyd at £3m mewn Canolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion newydd yng Nghymru (Awst 2022)

Galw ar ymarferwyr i helpu i gyfeirio ymchwil y dyfodol (Gorffennaf 2022)

Ysgolion cynradd yng Nghymru yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn astudiaeth diogelwch haul (Gorffennaf 2022)

Aelodaeth mynediad agored newydd yn caniatáu i ymchwilwyr rannu canlyniadau’n haws (Mai 2022)

Uwch ymchwilwyr yng Nghymru’n cyfrannu at fenter o bwys (Mai 2022)

Ymweliad brenhinol â chyfleuster ymchwil sy'n newid bywydau yn Abertawe (Mawrth 2022)

Dyfarnu amser ymchwil gwarchodedig i ddarpar arweinydd ymchwil yng Nghymru (Chwefor 2022)

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi enwau enillwyr dros £5 miliwn o wobrau ariannol am 2019-20 (Hydref 2021)

Gweminar Grant Gofal Cymdeithasol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (Medi 2021)

Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyfrannu tuag at ymchwil i effeithiau trais fel rhan o fuddsoddiad gwerth £19 miliwn (Awst 2021)

Galw am ymarferwyr gofal cymdeithasol i helpu i gyfeirio ymchwil yn y dyfodol (Awst 2021)

Bydd merch yng Nghymru yn gyntaf i elwa o ymchwil arloesol i bioprintio 3D gan ddefnyddio celloedd dynol (Gorffennaf 2021)

Ymchwilwyr Cymru yn adrodd am arwyddion cynnar o gadw golwg o fôn-gelloedd a ddefnyddir i drin glawcoma (Mehefin 2021)

Ymchwilwyr yn edrych i weld a allai bôn-gelloedd mêr esgyrn atal y difrod y mae glawcoma’n ei achosi (Mawrth 2021)

Mae blaenoriaethau ymchwil newydd yw anelu at helpu pobl hŷn i fyw bywydau hapusach a mwy boddhaus (Chwefror 2021)

NMCH yn ennill am ei gwaith ar gynnwys y cyhoedd mewn ymchwil (Hydref 2020)

Sefydliad

Is-adran Ymchwil a Datblygu, Llywodraeth Cymru

Cysylltwch â Michael

E-bost