Sêr ymchwil yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Rhagoriaeth Ymchwil ac Arloesi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
23 Medi
Dathlwyd llwyddiant ymchwilwyr ac arloeswyr ledled gogledd Cymru yn y gwobrau cyntaf o'u bath, a gynhaliwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Roedd y Gwobrau Rhagoriaeth Ymchwil ac Arloesi yn cydnabod staff ymchwil ar sawl cam gwahanol yn eu gyrfa o ystod o arbenigeddau, o ymchwil i atal cenhedlu i oncoleg.
Cafwyd pum gwobr gyda chydnabyddiaeth arbennig i'r rhai a aeth y tu hwnt i'r disgwyl yn ystod y pandemig i gefnogi treialon arloesol COVID-19, fel y treial brechlyn Novavax a oedd yn rhedeg yng Nghymru o Wrecsam, i'r rhai a oedd yn cadw treialon mewn meysydd afiechydon eraill i redeg yn esmwyth o dan amgylchiadau cyfnewidiol iawn.
Rhestr lawn o gategorïau gwobrau ac enillwyr
Gwobr Ymchwil Effaith ar Gleifion
- Enillydd - Dr Chris Subbe, Meddyg Ymgynghorol
- Yn ail - Tîm Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Gwobr Arloesi Effaith ar Gleifion
- Enillwyr – Tîm Hyrwyddwyr Atal Cenhedlu
- Enillydd – Mr Mohamed Yehia, Ymgynghorydd mewn Wroleg
- Yn ail – Tîm Fferylliaeth a Lleihau Niwed
Prif Ymchwilwyr Ymrwymedig
- Enillydd – Dr Orod Osanlou, Ymgynghorydd mewn Ffarmacoleg Glinigol a Therapiwteg
- Enillydd – Dr Earnest Heartin, Ymgynghorydd Haematoleg
- Enillwyr – Tîm Oncoleg y Gorllewin
Arloeswr sy’n ddechreuwr
- Enillydd – Emily Rose, Fferyllydd dan Hyfforddiant
- Yn ail - Tîm Cyswllt Cyfiawnder Troseddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Ymchwilydd sy’n ddechreuwr
- Enillydd - Iola Thomas, Nyrs Arbenigol Gastroenteroleg
- Yn ail – Joanne Goss, Prif Awdiolegydd
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Cyswllt Ymchwil ac Arloesi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Lynne Grundy: “Rydym yn falch iawn o gydnabod ein hymchwilwyr a'n harloeswyr sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ofal cleifion.
“Cafodd y beirniaid waith anodd iawn yn dewis yr Enillwyr, gan fod cymaint o waith da yn digwydd, ac mae’r cyfan yn haeddu'r gwobrau.
“Rydym nawr yn edrych ymlaen at gynnig y gwobrau hyn bob blwyddyn. ”
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ariannu adrannau Ymchwil a Datblygu ym mhob Bwrdd Iechyd yng Nghymru, i gefnogi a darparu ymchwil o'r radd flaenaf.
Dywedodd Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yr Athro Kieran Walshe: “Rydyn ni eisiau llongyfarch y rhai a gafodd eu cydnabod, a diolch i’n holl staff ymchwil sydd wedi gweithio’n ddiflino trwy gydol y pandemig i barhau â gwaith ymchwil hanfodol.
“Yn enwedig dros y 18 mis diwethaf, mae’n hynod bwysig myfyrio ar ymdrechion timau ac unigolion sy’n parhau i ymdrechu am ragoriaeth yn eu rolau o ddydd i ddydd, ac ni allem fod yn fwy balch ohonynt.”