Dr Orod Osanlou accepting Betsi Cadwaladr Research and Development NHS Award

Sêr ymchwil yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Rhagoriaeth Ymchwil ac Arloesi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

3 Medi

Dathlwyd  llwyddiant ymchwilwyr ac arloeswyr ledled gogledd Cymru yn y gwobrau cyntaf o'u bath, a gynhaliwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Roedd y Gwobrau Rhagoriaeth Ymchwil ac Arloesi yn cydnabod staff ymchwil ar sawl cam gwahanol yn eu gyrfa o ystod o arbenigeddau, o ymchwil i atal cenhedlu i oncoleg.

Cafwyd pum gwobr gyda chydnabyddiaeth arbennig i'r rhai a aeth y tu hwnt i'r disgwyl yn ystod y pandemig i gefnogi treialon arloesol COVID-19, fel y treial brechlyn Novavax a oedd yn rhedeg yng Nghymru o Wrecsam, i'r rhai a oedd yn cadw treialon mewn meysydd afiechydon eraill i redeg yn esmwyth o dan amgylchiadau cyfnewidiol iawn.

Rhestr lawn o gategorïau gwobrau ac enillwyr

Gwobr Ymchwil Effaith ar Gleifion

  • Enillydd - Dr Chris Subbe, Meddyg Ymgynghorol
  • Yn ail - Tîm Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Gwobr Arloesi Effaith ar Gleifion

  • Enillwyr – Tîm Hyrwyddwyr Atal Cenhedlu
  • Enillydd – Mr Mohamed Yehia, Ymgynghorydd mewn Wroleg
  • Yn ail – Tîm Fferylliaeth a Lleihau Niwed

Prif Ymchwilwyr Ymrwymedig

  • Enillydd – Dr Orod Osanlou, Ymgynghorydd mewn Ffarmacoleg Glinigol a Therapiwteg
  • Enillydd – Dr Earnest Heartin, Ymgynghorydd Haematoleg
  • Enillwyr – Tîm Oncoleg y Gorllewin

Arloeswr sy’n ddechreuwr

  • Enillydd – Emily Rose, Fferyllydd dan Hyfforddiant
  • Yn ail - Tîm Cyswllt Cyfiawnder Troseddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Ymchwilydd sy’n ddechreuwr

  • Enillydd - Iola Thomas, Nyrs Arbenigol Gastroenteroleg
  • Yn ail – Joanne Goss, Prif Awdiolegydd

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Cyswllt Ymchwil ac Arloesi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Lynne Grundy: “Rydym yn falch iawn o gydnabod ein hymchwilwyr a'n harloeswyr sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ofal cleifion.

“Cafodd y beirniaid waith anodd iawn yn dewis yr Enillwyr, gan fod cymaint o waith da yn digwydd, ac mae’r cyfan yn haeddu'r gwobrau.

“Rydym nawr yn edrych ymlaen at gynnig y gwobrau hyn bob blwyddyn. ”

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ariannu adrannau Ymchwil a Datblygu ym mhob Bwrdd Iechyd yng Nghymru, i gefnogi a darparu ymchwil o'r radd flaenaf.

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yr Athro Kieran Walshe: “Rydyn ni eisiau llongyfarch y rhai a gafodd eu cydnabod, a diolch i’n holl staff ymchwil sydd wedi gweithio’n ddiflino trwy gydol y pandemig i barhau â gwaith ymchwil hanfodol.

“Yn enwedig dros y 18 mis diwethaf, mae’n hynod bwysig myfyrio ar ymdrechion timau ac unigolion sy’n parhau i ymdrechu am ragoriaeth yn eu rolau o ddydd i ddydd, ac ni allem fod yn fwy balch ohonynt.”