Praveeena

Stori Praveena: sut rwy’n trawsnewid ymchwil iechyd yng Nghymru fel myfyriwr

Mae Praveena Pemmasani o ogledd Caerdydd yn 19 mlwydd oed ac yn astudio gradd mewn meddygaeth ym mhrifysgol Caerdydd. Ers tair blynedd, mae hi wedi helpu ymchwilwyr i gynllunio’r astudiaethau maen nhw’n dymuno’u cynnal yng Nghymru fel aelod o grŵp ieuenctid sy’n trafod materion ynghylch astudiaethau iechyd sydd ar y gweill gydag ymchwilwyr.

---

“Cyn i mi fod yn rhan o ymchwil iechyd, doeddwn i ddim yn gwybod llawer amdano. Roeddwn i’n deall ei fod yn bwysig a’i fod yn arwain at ganfod triniaethau newydd, ond doeddwn i ddim yn gwybod sut oedd hynny’n digwydd. Roeddwn i’n gwybod bod angen gwirfoddolwyr ar astudiaethau i dreialu meddyginiaethau newydd ond doeddwn i ddim yn gwybod y gallai’r cyhoedd gymryd rhan mewn ffyrdd eraill.

“Ffrind ysgol ddywedodd wrtha i am ALPHA yn gyntaf. Roeddwn i’n bwriadu astudio meddygaeth ac roeddwn i eisiau dysgu mwy am sut mae ymchwil yn digwydd. Ond yn sicr, does dim angen i chi fod yn bwriadu bod yn feddyg i ymddiddori mewn hyn.

“Rydym yn cwrdd fel grŵp ag ymchwilwyr unwaith y mis ac yn sgwrsio â nhw am eu hastudiaethau sy’n amrywio o hysbysebu alcohol i atal cyffuriau. Yn ddiweddar fe wnaethom roi adborth ar arolwg iechyd meddwl yr oedd yr ymchwilwyr yn dymuno’i gynnal mewn ysgolion felly roedd yn rhywbeth roeddwn i’n gallu uniaethu â fe oherwydd roeddwn i newydd orffen yn yr ysgol uwchradd.

“Roedd yr ymchwilwyr yn dymuno anfon gweithwyr proffesiynol i ysgolion i gynnal yr arolwg, ond fe wnaethom ni gynnig eu bod nhw yn hyfforddi myfyrwyr i gyflwyno’r arolwg yn lle hynny. Roeddem ni’n credu byddai myfyrwyr yn fwy tebygol o fod yn agored â’u cyfoedion yn hytrach nag oedolion eraill. Cawsom nifer o sesiynau gyda nhw ac roeddem ni wedi gweld sut y newidiodd yr ymchwil ar sail yr hyn yr oeddem ni’n ei ddweud. Roeddwn i’n credu ei fod yn cŵl iawn i gael dweud ein dweud.

“Pan ddechreuais gydag ALPHA yn wreiddiol, cefais fy synnu bod yr ymchwilwyr yn gwrando arnom ni oherwydd roeddwn i’n credu bod angen sawl gradd arnoch chi i gael eich cymryd o ddifri. Ond does dim angen i chi fod yn arbenigwr, mae ymchwilwyr ond yn chwilio am safbwynt gwahanol. Ambell waith rydym ni’n meddwl am bethau dyw’r ymchwilwyr ddim wedi’u hystyried.

“I ddechrau, roeddwn i ychydig yn nerfus. Roeddwn i’n poeni y byddai angen i mi fod yn dechnegol neu wybod llawer am y wyddoniaeth ddiweddaraf, ond mae’n grŵp mor gefnogol a hwyl. Rydym ni i gyd o oedran tebyg felly rydych chi’n teimlo eich bod yn gallu rhannu eich barn a gwneud ffrindiau yn hawdd.

“Mae’r pandemig wedi gwneud pawb yn fwy ymwybodol o sut gall ymchwil iechyd newid bywydau ond rwy wastad wedi teimlo ei fod yn bwysig. Rwy’n wir meddwl gallai llawer o bobl fod â diddordeb mewn ymchwil oherwydd bydd yr astudiaethau iechyd hyn yn debygol o effeithio ar bob un ohonom ni ar ryw adeg.

“Rwy’n wir mwynhau bod yn rhan o ALPHA. Rydych chi’n teimlo eich bod yn rhan o rywbeth bydd yn cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl ac yn gwneud gwahaniaeth."

---

Mae ALPHA (Cyngor yn Arwain at Hyrwyddo Iechyd y Cyhoedd) yn grŵp cynnwys y cyhoedd o bobl rhwng 14 a 25 oed ac mae'n cael ei arwain gan DECIPHer, sy'n rhan o gymuned a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Dysgwch fwy am ALPHA a sut i ymuno.  

Cofrestrwch ar gyfer ein bwletin wythnosol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y straeon, cyfleoedd a digwyddiadau ymchwil diweddaraf o Gymru.