alt

Helpwch gydag ymchwil

Beth sy’n helpu ag ymchwil?

Gallwch chi helpu ag ymchwil trwy waith cynnwys y cyhoedd, sy’n chwarae rhan hanfodol mewn ymchwil trwy ganiatáu i aelodau’r cyhoedd gyfrannu o’u hamser a’u profiadau personol i bennu cyfeiriad a dulliau’r ymchwil.

Mae’r gwaith cynnwys hwn wedi’i integreiddio trwy gydol y broses ymchwil gyfan, gan sicrhau bod yr ymchwil yn rhoi sylw i anghenion a phryderon pobl y mae’n anelu at fod o fudd iddyn nhw.

Trwy gynnwys y cyhoedd, mae gan y rheini y bydd darganfyddiadau’r ymchwil neu newidiadau mewn arferion a gofal iechyd yn effeithio arnyn nhw yn y pen draw yn cael dweud eu dweud yn y broses. Gall hyn ddigwydd mewn nifer o ffyrdd, fel:

  • Blaenoriaethu ymchwil: Gall y cyhoedd ymuno â phaneli ariannu i helpu i benderfynu pa brosiectau ymchwil y dylid eu cefnogi, gan ganolbwyntio ar y rheini sydd bwysicaf a theilwng.
  • Cynllunio astudiaethau: Gall y cyhoedd helpu â chynllunio astudiaethau ymchwil, gan sicrhau eu bod yn cael eu cynnal mewn modd ymatebol, llawn parch ac yn rhoi sylw i anghenion cyfranogion.
  • Gwella’r ffordd o gyflenwi ymchwil: Gall aelodau’r cyhoedd gynnig mewnwelediadau gwerthfawr ynglŷn â sut i gynnal ymchwil, gan arwain at well profiad i gyfranogion astudiaethau.
  • Rhoi darganfyddiadau ymchwil ar waith: Gall y cyhoedd hefyd helpu ag awgrymu ffyrdd ymarferol i roi darganfyddiadau ymchwil ar waith, gan sicrhau bod y wybodaeth newydd a enillir trwy’r astudiaeth yn gallu bod o fudd i bobl.

Yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae gennym ni gymuned cynnwys y cyhoedd lle y mae pobl yn gallu cofrestru i helpu i lunio ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Mae yna lawer o fuddion i ymuno fel aelod cynnwys y cyhoedd. Gallwch chi helpu i lunio ymchwil sy’n effeithio arnoch chi, eich teulu neu’ch ffrindiau trwy rannu’ch profiadau chi. Mae’ch mewnbwn yn gwella cwestiynau ymchwil, gan arwain at well triniaeth a gofal. Byddwch chi’n cyfarfod â phobl newydd, yn dysgu sgiliau gwerthfawr ac yn derbyn bwletin wythnosol gyda chyfleoedd ymchwil ynddo. Mae’n hawdd ymuno trwy gofrestru ar-lein neu gysylltu â’r tîm. Fel aelod, fe fydd eich treuliau’n cael eu had-dalu, fe fyddwch chi’n derbyn tâl am eich amser, a bydd cyngor ar fudd-daliadau ar gael ichi.

Cefnogaeth sydd ar gael

Mae gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru dîm ymroddgar, sef Peter, Rebecca ac Emma, sy’n helpu i gefnogi’r cyhoedd i gael eu cynnwys mewn ymchwil.

A fyddai gennych chi ddiddordeb mewn cyfarfod â’r tîm? Rydyn ni’n annog hyn yn frwd! Boed â chwestiynau ynglŷn â chynnwys y cyhoedd neu ddim ond eisiau sgwrs gyfeillgar ag un o aelodau ein tîm, rydyn ni yma i’ch helpu. Mae’n gyfle gwych i edrych ar bob agwedd ar gynnwys y cyhoedd ac ennill mewnwelediadau gwerthfawr i ddod yn rhan o’n cymuned ddeinamig.

Gall ein tîm ddarparu cymorth gwerthfawr mewn nifer o feysydd, gan gynnwys:

Cliciwch yma, a bydd un o aelodau ein tîm yn cysylltu â chi i drefnu dyddiad.

Mae tîm Cyfathrebu, Ymgysylltu a Chynnwys Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n darparu hyfforddiant wedi’i deilwra ar gynnwys y cyhoedd mewn ymchwil, wedi’i addasu fel ei fod yn addas ar gyfer ffocws unigryw eich sefydliad neu’ch cymuned chi.

Rydyn ni’n hapus i fynychu’ch clwb, sefydliad neu grŵp a rhoi gwybodaeth am yr ymchwil sy’n mynd rhagddi yng Nghymru ac am gyfleoedd i aelodau’r cyhoedd helpu i lunio’r ymchwil honno. Gall ein tîm deilwra’ch sesiwn i fod yn addas ar gyfer ffocws ac anghenion eich grŵp chi a gallwn ni hefyd ddarparu gwybodaeth amdanom ni mewn fformatau wedi’u haddasu, er enghraifft fformat hawdd i’w ddarllen. Os ydych chi’n helpu i redeg grŵp, clwb neu sefydliad sy’n gweithio gydag aelodau’r cyhoedd ac os hoffech chi i ni ddarparu sesiwn am ddim ar eich cyfer, neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, yna cysylltwch â’r tîm.

Darganfod eich rôl mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol

Ers 2019, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi cymryd camau sylweddol mewn gwella gwaith cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Gan gydweithio ag aelodau’r cyhoedd, ymchwilwyr a sefydliadau allweddol, rydyn ni wedi casglu mewnwelediadau gwerthfawr i’w profiadau a’u dyheadau ar gyfer cynnwys y cyhoedd.

Yn sgil y trafodaethau hyn, rydyn ni wedi creu cynllun ar y cyd o’r enw ‘Darganfod Eich Rôl mewn ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol’.

Er mwyn rhoi’r cynllun hwn ar waith, gwnaethon ni lansio ein Fforwm Cynnwys ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd ym mis Ionawr 2021, gan ddarparu platfform cynhwysol ar gyfer pob unigolyn â diddordeb. Rydyn ni’n lletya tri fforwm ar-lein y flwyddyn. Mae’r fforwm yn agored i unrhyw un ymuno ag ef, ac rydyn ni’n annog eich cyfranogiad. I ddod yn rhan o’r gymuned hon, cysylltwch â ni trwy e-bost. Rydyn ni’n gwerthfawrogi’ch cyfraniad!

Yn Hyrwyddo Gwaith Rhagorol Cynnwys y Cyhoedd yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Mae is-adran Ymchwil a Datblygu Llywodraeth Cymru, trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn gyfrifol am sefydlu polisïau sy’n blaenoriaethu gwaith rhagorol cynnwys y cyhoedd ym mhob ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol a gynhelir yng Nghymru.

I gyflawni’r nod hwn, bu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n gweithio gyda sefydliadau amrywiol i ddatblygu Safonau’r DU ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd. Mae’r safonau hyn yn set dŵls a chanllaw cynhwysfawr i sicrhau bod gwaith ystyrlon cynnwys y cyhoedd yn dod yn rhan annatod o’r broses ymchwil.

Ynghyd â phartneriaid ymchwil eraill yn y DU, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi ymrwymo i wella cwmpas ac ansawdd cynnwys y cyhoedd. Mae ein hymrwymiad wedi’i wreiddio mewn gwaith rhagorol cynnwys y cyhoedd ym mhob agwedd o’u gwaith, gan sicrhau bod ymchwil yn wirioneddol diwallu anghenion a diddordebau’r cyhoedd.

Os ydych chi’n ymchwilydd ac os hoffech chi gynnwys y cyhoedd yn eich ymchwil, anfonwch e-bost atom ni.

Cofrestrwch i dderbyn ein e-bost Cynnwys pobl o bwys bob wythnos i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf oll o ran straeon, cyfleoedd a digwyddiadau – fyddwch chi ddim eisiau methu hyn.