Anna Roynon wearing face mask chatting to a patient

Arweinydd Tîm Ymchwil Aneurin Bevan ar y rhestr fer ar gyfer gwobrau Nyrs y Flwyddyn

21 Tachwedd

Mae Uwch Arweinydd Tîm Cyflenwi Ymchwil ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Anna Roynon, wedi’i gosod ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Cefnogi Gwelliant Trwy Ymchwil yng ngwobrau Nyrs y Flwyddyn Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, sef digwyddiad sy’n dathlu rhagoriaeth nyrsio ledled y wlad.

Fe alwodd y pandemig am ddull newydd o fynd ati i gyflenwi ymchwil yn y Bwrdd Iechyd a bu Anna yn ysgogi newidiadau i wneud yn siŵr bod hyn yn llwyddiannus. Fe gyflwynodd y cyfle i gleifion gymryd rhan mewn astudiaethau ar y penwythnos, bu’n cefnogi clinigwyr i gyflenwi astudiaethau cymhleth a chyfnewidiol a gwnaeth yn siŵr ei bod hi bob amser ar gael y tu allan i oriau i unrhyw rai o’r ysbytai yn y Bwrdd Iechyd.

O ganlyniad i’w hymrwymiad i ymchwil, fe greodd Anna amgylchedd lle y gallai mwy o gleifion COVID-19 gymryd rhan mewn treialon sy’n hanfodol yn y frwydr yn erbyn y feirws.

Meddai Anna, a oedd wedi bod yn ei rôl am chwe mis fel Uwch Arweinydd Tîm Cyflenwi Ymchwil pan darodd y pandemig: “Doeddwn i erioed wedi bod mewn rôl reoli o’r blaen felly roedd braidd fel ‘bedydd tân’ ac mae’r 20 mis diwethaf wedi bod yn anodd i ni i gyd.

“Fy mhrif ysgogwr gydol y pandemig oedd rhoi’r cyfle i bawb oedd â COVID-19 gymryd rhan mewn ymchwil a allai achub bywydau. Roedd gennyn ni rai unedau yn y Bwrdd Iechyd a oedd yn gwneud llawer o ymchwil ac eraill a oedd ddim yn gwneud unrhyw ymchwil o gwbl, ac roeddwn i eisiau cyfle cyfartal i bob claf ein helpu ni i ddod o hyd i’r triniaethau a’r gofal COVID-19 gorau.”

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan oedd y cyntaf yng Nghymru i redeg treial brechlyn COVID-19 a bu Anna yn chwarae rhan hollbwysig yn astudiaeth hanfodol brechlyn Rhydychen/AstraZeneca, yn sefydlu ac yn rheoli’r broses y byddai cyfranogwyr yn mynd trwyddi pe baen nhw’n cael COVID-19 tra’u bod ar y treial.

Aeth Anna ymlaen i ddweud: “Roedd hi’n fraint gweithio ar astudiaeth y brechlyn a’r treialon COVID-19 eraill i gyd. Dwi’n cofio mynd am fy mrechlyn i ac roedd yn brofiad emosiynol iawn - mae'n gymaint o gyflawniad i bawb a chwaraeodd ran.

“Mae cael fy enwebu ar gyfer y wobr yma a chael cydnabyddiaeth am y gwaith caled a’r aberth yn anrhydedd mawr – dwi’n falch iawn o fod yn nyrs.”

Digwyddodd y seremoni wobrwyo ar-lein, gan anrhydeddu ymdrechion, ymrwymiad a chyflawniadau rhagorol y gymuned nyrsio gyfan ledled Cymru.

Mae’r wobr Cefnogi Gwelliant Trwy Ymchwil yn cydnabod ansawdd yr ymchwil nyrsio a bydwreigiaeth, gan ddathlu’r rheini sy’n mynd yr ‘ail filltir’.

Meddai Susan Palmer, Rheolwr Ymchwil a Datblygu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a enwebodd Anna: “Er gwaethaf tirwedd sy’n newid byth a hefyd trwy gydol y pandemig, roedd hi bob amser yn bosibl dibynnu ar Anna i fod yn ymwybodol o’r newidiadau a’r wybodaeth ddiweddaraf ac arwain ei thîm yn ddi-dor.

“Llongyfarchiadau enfawr i Anna ar y cyflawniad yma; mae pawb yn y tîm Ymchwil a Datblygu yn falch iawn ohoni.”

Meddai Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cefnogi a Chyflenwi yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy’n goruchwylio’r holl ymchwil COVID-19 yng Nghymru: “Mae’r staff ymchwil a datblygu i gyd ar draws Cymru wedi bod yn gweithio’n galed iawn dros yr 20 mis diwethaf i sefydlu a chyflenwi astudiaethau ymchwil COVID-19 hanfodol.

“Heb bobl fel Anna, fyddai hi ddim wedi bod yn bosibl llwyddo i ddod o hyd i frechlynnau a thriniaethau sy’n gweithio, fel sydd wedi digwydd. Mi hoffwn i ddweud diolch o galon a da iawn ti Anna, mae hyn yn gyflawniad ffantastig.”

Enillydd gwobr Cefnogi Gwelliant trwy Ymchwil yw Emma Williams, Rheolwraig Uned Treialon Hematoleg yn Ysbyty Prifysgol Caerdydd, am ei gwaith  arloesol gydag astudiaethau i helpu cleifion gydag ystod eang o anghwylderau gwaed.