Rheolwraig Uned Treialon Hematoleg Caerdydd yn ennill Gwobr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru
20 Tachwedd
Emma Williams, o Gwmfelinfach yng Nghaerffili, oedd enillydd Gwobr Cefnogi Gwelliannau trwy Ymchwil yng nghyfarfod gwobrwyo Nyrs y Flwyddyn 2021 dan nawdd y Coleg Nyrsio Brenhinol. Wedi cychwyn ei gyrfa fel Rheolwraig Uned Treialon Hematoleg yn Ysbyty Prifysgol Caerdydd yn 2015, gweithiodd Emma tuag at gynyddu nifer astudiaethau ymchwil hematoleg, gan helpu i newid bywydau pobl gydag ystod eang o anhwylderau gwaed.
Gweithiodd Emma mewn cydweithrediad â’r Prif Ymchwilwyr (PI) er mwyn sefydlu cyfarfodydd adrannol yn fisol a chreu cynllun strategol a fyddai yn sicrhau bod gan gleifion bob cyfle i gymryd rhan mewn treialon a allai achub eu bywydau. Ei phenderfyniad hi oedd yn gyfrifol am i’r Uned sefydlu dros 65 o astudiaethau mewn deg maes haint.
Dyma ddywedodd Emma, sydd wedi bod yn gweithio mewn ymchwil hematoleg ers 2009: “Mae gallu rhoi i gleifion y dewis o gymryd rhan mewn treialon hanfodol ar gyfer triniaethau na fyddent yn cael mynediad atynt fel arall yn wir yn fy ysgogi i ddal i gario ymlaen.”
O ganlyniad i’w gwaith caled a’i hangerdd dros ymchwil, daeth Emma yn nyrs-PI Grwp Ymchwil Clinigol Hematoleg Horizons, yr astudiaeth gyntaf i’w harwain gan nyrs ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, yn archwilio llesiant cleifion oedd wedi derbyn diagnosis canser.
Wedi ei hysbrydoli gan ei gwaith gyda Horizons ac yng nghanol pandemig COFID-19, sefydlodd Emma ei hastudiaeth ei hunan, dan y teitl CART QUOL, yn edrych ar ansawdd bywyd cleifion wedi iddynt dderbyn triniaeth newydd lle’r oedd celloedd gydag imiwnedd yn cael eu symud, eu newid a’u dychwelyd i waed y claf i geisio lladd celloedd canser.
Ychwanegodd Emma: “Roeddwn yn gweld yr ofn oedd gan ein cleifion CAR-T, wedi iddynt fynd trwy’r holl driniaethau gwahanol, roeddynt hefyd yn gorfod delio gyda’r risg o ddal COFID-19. Roeddwn i eisiau deall sut y gallem ysgafnhau ychydig ar yr hyn yr oeddent hwy yn ei ddioddef.
“Mae nyrsus yn dueddol o fod â pherthynas agos gyda’u cleifion, felly mae mor bwysig bod nyrs yn ganolog i’r astudiaeth ac yn eu harwain trwyddi. Rwyf yn wir eisiau annog nyrsus i arwain ymchwil, maent yn amhrisiadwy i brofiad y claf.
“Rwyf mor ddiolchgar am gael cynrychioli hematoleg. Mae’r wobr hon yn golygu cymaint, yn tanlinellu’r gwaith anhygoel gan holl aelodau’r tïm ac yn dangos sut y gallwn newid bywydau.”
Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo ar-lein ac roedd yn anrhydeddu’r ymdrechion eithriadol, yr ymroddiad a’r llwyddiannau a gyflawnwyd gan yr holl gymuned nyrsio ledled Cymru.
Mae gwobr Cefnogi Gwelliant Trwy Ymchwil yn cydnabod ansawdd mewn ymchwil nyrsio a bydwreigiaeth ac yn dathlu ymdrech y rhai sydd yn mynd y “filltir ychwanegol”.
Dyma eiriau Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwraig Cyflenwi a Chymorth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sydd yn helpu i gefnogi a chyflawni ymchwil hanfodol mewn Byrddau Iechyd ledled Cymru: “Fe hoffwn i estyn fy llongyfarchiadau a’m diolch mawr i Emma am ei gwaith anhygoel yn y maes afiechyd hwn. Mae’n fendigedig gweld sut mae aelodau staff ymchwil yn datblygu a pha mor bell y mae Emma wedi dod - mae’r wobr hon yn cydnabod hynny heddiw.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Ruth Walker: "Llongyfarchiadau enfawr i Emma sydd, ochr yn ochr â nifer o enillwyr Gwobr Nyrs y Flwyddyn Coleg Brenhinol y Nyrsys o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro eleni, wedi gwneud cyfraniad eithriadol i'r proffesiwn nyrsio a bydwreigiaeth yma yng Nghymru.
"Mae ymroddiad Emma i yrru gweithgarwch ymchwil yn ei flaen oddi mewn y Bwrdd Iechyd yn wirioneddol haeddiannol o'r wobr hon, ac fel rhan o'n timau ymchwil mae'n cael effaith fawr ar wella gofal a adnabod triniaethau newydd i gleifion."
Daeth Uwch Arweinydd Tïm Cyflawni Ymchwil Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sef Anna Roynon, yn ail am y wobr Cefnogi Gwelliant Trwy Ymchwil am greu amgylchedd yn ei Bwrdd Iechyd lle gallai mwy o gleifion COFID-19 gymryd rhan mewn treialon hanfodol yn y frwydr yn erbyn y feirws.