Cynllun Uwch-arweinwyr Ymchwil
Mae Cynllun Uwch-arweinwyr Ymchwil ar agor i ymchwilwyr iechyd a/neu ofal yng Nghymru sydd:
- yn dangos arweiniad, rhagoriaeth ac effaith ym maes ymchwil yng Nghymru, ac yn y DU/yn rhyngwladol
- yn gallu neilltuo 10-15 diwrnod y flwyddyn i’r rôl
- â chefndir o ddatblygu ymchwilwyr a datblygu capasiti a gallu ymchwil yng Nghymru, er enghraifft, drwy ddenu, datblygu a chadw gweithlu ymchwil iechyd hynod alluog, drwy gefnogi cyfleoedd i gydweithio a datblygu rhaglenni ymchwil newydd
- yn integreiddio cynnwys cleifion/defnyddwyr gwasanaethau a’r cyhoedd mewn ymchwil
- wedi ymrwymo i gyfrannu at Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru fel uwch-arweinydd.
Cylch gwaith
Mae’r Uwch-arweinwyr Ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ymhlith yr ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol mwyaf blaenllaw ac uchel eu parch yn y wlad. Maent yn chwarae rhan hanfodol wrth arwain a datblygu’r gymuned ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru. Rydym yn dibynnu arnynt i ddarparu arweiniad, gweithredu fel llysgenhadon ac eiriolwyr dros ymchwil iechyd a gofal, a chwarae rhan ganolog i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru drwy fentora, a thrwy ddarparu cyngor a chefnogaeth i’r gymuned ymchwil. Bydd disgwyl i bob Uwch-arweinydd Ymchwil ymgysylltu â gweithgareddau Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’u cefnogi.
I gydnabod eu rôl bwysig a’u cyfraniad at ddatblygu a chefnogi’r gymuned ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, mae Uwch-arweinwyr Ymchwil yn derbyn dyfarniad blynyddol yn ôl disgresiwn o hyd at £15,000 i gefnogi eu gwaith ymchwil (cyfanswm o £45,000 dros gyfnod y dyfarniad 3 blynedd).
Byddai ymrwymiad amser yr Uwch-arweinwyr Ymchwil yn cynnwys cyfrannu at Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys drwy baneli, byrddau neu bwyllgorau ariannu, drwy ymgysylltu ar lefel y DU â chyllidwyr a chyrff eraill, a thrwy gyfrannu at ddatblygu capasiti a gallu ymchwil yng Nghymru drwy amrywiaeth o weithgareddau’r Gyfadran.
Cymhwysedd
Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y cynllun fodloni’r meini prawf cymhwysedd canlynol:
- Rhaid i ymgeiswyr fod yn gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd fel ymchwilydd ym maes iechyd a/neu ofal cymdeithasol
- Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â phrofiad fel prif ymchwilydd/ymgeisydd arweiniol ar grantiau ymchwil neu ddyfarniadau sylweddol wedi’u hariannu (yn rhannol o leiaf) gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y Cynghorau Ymchwil, NIHR, neu gyrff cyllido eraill o ansawdd uchel (gan gynnwys cyrff cyllido a fyddai’n gymwys i fod ar y portffolio).
- Rhaid i ymgeiswyr fod â chontract cyflogaeth gyda sefydliad yng Nghymru (er enghraifft Prifysgol yng Nghymru, corff GIG yng Nghymru, neu sefydliad gofal cymdeithasol Cymru).
Asesu’r cais
Ceisiadau yn agor: Dydd Iau 14 Tachwedd 2024
Yn Cau: 16:00 ddydd Iau 9 Ionawr 2025.
Gwnewch gais nawr gan ddefnyddio System Rheoli Dyfarniadau'r Gyfadran
Yn gyntaf, bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n asesu’r ceisiadau i weld a ydyn nhw’n gymwys. Bydd ceisiadau sydd yn gymwys yn cael eu hasesu gan banel allanol o academyddion arbenigol. Bydd y panel yn gwneud argymhellion ariannu i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, o 17 Hydref 2024, yn trosglwyddo i ddefnyddio System Rheoli Dyfarniadau newydd a'r ymgeiswyr ar gyfer y Cymrodoriaethau Uwch a Doethurol nesaf fydd y grŵp cyntaf i ddefnyddio'r system newydd hon.
O fis Hydref 2024 ymlaen, bydd y Gyfadran yn gweinyddu'r holl alwadau newydd gan ddefnyddio'r System Rheoli Dyfarniadau a bydd yn dechrau symud rheolaeth holl ddyfarniadau personol presennol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i'r system hon o fis Ionawr 2025.
Rydym yn rhagweld y bydd y System Rheoli Dyfarniadau newydd yn hwyluso prosesau mwy effeithlon ar gyfer y Gyfadran a fydd o fudd i'n hymgeiswyr a'n haelodau ac yn ein helpu i wella'r gefnogaeth i ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y system newydd, cysylltwch â thîm y Gyfadran a fydd yn hapus iawn i helpu.
Gwybodaeth bellach