Cynllun Uwch-arweinwyr Ymchwil

Mae Cynllun Uwch-arweinwyr Ymchwil ar agor i ymchwilwyr iechyd a/neu ofal yng Nghymru sydd:

  • yn dangos arweiniad, rhagoriaeth ac effaith ym maes ymchwil yng Nghymru, ac yn y DU/yn rhyngwladol
  • yn gallu neilltuo 10-15 diwrnod y flwyddyn i’r rôl
  • â chefndir o ddatblygu ymchwilwyr a datblygu capasiti a gallu ymchwil yng Nghymru, er enghraifft, drwy ddenu, datblygu a chadw gweithlu ymchwil iechyd hynod alluog, drwy gefnogi cyfleoedd i gydweithio a datblygu rhaglenni ymchwil newydd
  • yn integreiddio cynnwys cleifion/defnyddwyr gwasanaethau a’r cyhoedd mewn ymchwil
  • wedi ymrwymo i gyfrannu at Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru fel uwch-arweinydd.

Cylch gwaith

Mae’r Uwch-arweinwyr Ymchwil Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ymhlith yr ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol mwyaf blaenllaw ac uchel eu parch yn y wlad. Maent yn chwarae rhan hanfodol wrth arwain a datblygu’r gymuned ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru. Rydym yn dibynnu arnynt i ddarparu arweiniad, gweithredu fel llysgenhadon ac eiriolwyr dros ymchwil iechyd a gofal, a chwarae rhan ganolog i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru drwy fentora, a thrwy ddarparu cyngor a chefnogaeth i’r gymuned ymchwil. Bydd disgwyl i bob Uwch-arweinydd Ymchwil ymgysylltu â gweithgareddau Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’u cefnogi.

I gydnabod eu rôl bwysig a’u cyfraniad at ddatblygu a chefnogi’r gymuned ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, mae Uwch-arweinwyr Ymchwil yn derbyn dyfarniad blynyddol yn ôl disgresiwn o hyd at £15,000 i gefnogi eu gwaith ymchwil (cyfanswm o £45,000 dros gyfnod y dyfarniad 3 blynedd).

Byddai ymrwymiad amser yr Uwch-arweinwyr Ymchwil yn cynnwys cyfrannu at Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys drwy baneli, byrddau neu bwyllgorau ariannu, drwy ymgysylltu ar lefel y DU â chyllidwyr a chyrff eraill, a thrwy gyfrannu at ddatblygu capasiti a gallu ymchwil yng Nghymru drwy amrywiaeth o weithgareddau’r Gyfadran.

Cymhwysedd

Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y cynllun fodloni’r meini prawf cymhwysedd canlynol:

  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd fel ymchwilydd ym maes iechyd a/neu ofal cymdeithasol
  • Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â phrofiad fel prif ymchwilydd/ymgeisydd arweiniol ar grantiau ymchwil neu ddyfarniadau sylweddol wedi’u hariannu (yn rhannol o leiaf) gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, y Cynghorau Ymchwil, NIHR, neu gyrff cyllido eraill o ansawdd uchel (gan gynnwys cyrff cyllido a fyddai’n gymwys i fod ar y portffolio).  
  • Rhaid i ymgeiswyr fod â chontract cyflogaeth gyda sefydliad yng Nghymru (er enghraifft Prifysgol yng Nghymru, corff GIG yng Nghymru, neu sefydliad gofal cymdeithasol Cymru).

Asesu’r cais

Bydd yr alwad nesaf yn agor ar 14 Tachwedd 2024 ac yn cau ar 9 Ionawr 2025. 

Yn gyntaf, bydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n asesu’r ceisiadau i weld a ydyn nhw’n gymwys. Bydd ceisiadau sydd yn gymwys yn cael eu hasesu gan banel allanol o academyddion arbenigol. Bydd y panel yn gwneud argymhellion ariannu i Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.


Mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, o 17 Hydref 2024, yn trosglwyddo i ddefnyddio System Rheoli Dyfarniadau newydd a'r ymgeiswyr ar gyfer y Cymrodoriaethau Uwch a Doethurol nesaf fydd y grŵp cyntaf i ddefnyddio'r system newydd hon.

O fis Hydref 2024 ymlaen, bydd y Gyfadran yn gweinyddu'r holl alwadau newydd gan ddefnyddio'r System Rheoli Dyfarniadau a bydd yn dechrau symud rheolaeth holl ddyfarniadau personol presennol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i'r system hon o fis Ionawr 2025.

Rydym yn rhagweld y bydd y System Rheoli Dyfarniadau newydd yn hwyluso prosesau mwy effeithlon ar gyfer y Gyfadran a fydd o fudd i'n hymgeiswyr a'n haelodau ac yn ein helpu i wella'r gefnogaeth i ymchwilwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y system newydd, cysylltwch â thîm y Gyfadran a fydd yn hapus iawn i helpu.

Ar gau

Gwybodaeth bellach

E-bost: healthandcareresearchgrants@llyw.cymru