Ymchwil sy’n newid bywydau yn gwella bywydau plant a phobl ifanc Cymru
21 Tachwedd
I rai plant ledled Cymru, ymchwil glinigol yw’r unig ffordd, o bosibl, o gael triniaethau newydd sy’n achub bywyd.
Mae Rhian Thomas-Turner, Arweinydd Ymchwil a Datblygu yn Ysbyty Plant Cymru Noah’s Ark yn hyrwyddo hawliau plant i gymryd rhan mewn ymchwil yng Nghymru ac i elwa arni.
Yr unig uned ymchwil bwrpasol ar gyfer plant dan 18 oed
Mae Rhian yn arwain yr unig uned ymchwil bwrpasol ar gyfer plant dan 18 oed yng Nghymru, sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, gan arwain y gwaith o gyflwyno sawl astudiaeth yn yr ysbyty, sy’n ymchwilio i driniaethau ar gyfer ffeibrosis systig, diabetes a niwmonia.
Diwrnod Plant y Byd
Mae Diwrnod Plant y Byd, sy’n ymrwymo i wella lles pobl ifanc, yn cynnig cyfle perffaith i ddathlu’r gwaith anhygoel sydd eisoes ar y gweill – gan newid bywydau cannoedd o blant.
Dywedodd Rhian, sy’n astudio ar gyfer ei PhD mewn Hawliau Dynol Plant a Threialon Clinigol ar hyn o bryd: "Dechreuodd fy ngyrfa ym maes Iechyd Plant fel Rheolwr Ymchwil y Rhwydwaith Ymchwil Plant a Phobl Ifanc a’r mwyaf o amser y treuliais i’n gweithio yn y diwydiant ymchwil, daeth yn fwy amlwg cyn lleied o ymchwil oedd yn ystyried triniaethau ar gyfer cyflyrau sy’n effeithio’n benodol ar ofal pobl ifanc a babanod.
"Mae plant dan 18 oed yn ymateb yn wahanol a dylid darparu ar eu cyfer"
"Mae plant dan 18 oed yn ymateb yn wahanol a dylid darparu ar eu cyfer. Rwy’n teimlo’n gryf y dylai cyfleoedd fod ar gael i bawb. Heb gyfranogwyr, ni allwn ddod o hyd i ffyrdd newydd, sy’n achub bywydau ac yn arbed adnoddau, o ofalu am bobl.
"Mae pobl ifanc eisiau cael i bobl eu clywed. Wrth i bobl ifanc 16 oed gael pleidleisio yng Nghymru erbyn hyn a’r genhedlaeth newydd yn codi ei llais dros newid hinsawdd a gwleidyddiaeth, mae’n rhaid eu cynrychioli yn ein hymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
Ymchwil sy’n achub bywydau plant
"Agorodd yr uned yn 2017 ac ers hynny rydym ni wedi gweithio ar fwy na 30 o astudiaethau. Dyma rai enghreifftiau o astudiaethau yr ydym ni wedi bod yn rhan ohonyn nhw a’r effaith y maen nhw wedi’i chael:
Mae astudiaeth CAP-IT yn ystyried y ffordd orau o roi gwrthfiotigau i blant ifanc sydd â niwmonia. Gwnaethom ni recriwtio 40 o blant yn Ysbyty Plant Cymru i’r astudiaeth genedlaethol hon a wnaeth ddarganfod yn ddiweddarach fod modd trin plant â niwmonia sydd wedi’u rhyddhau o’r ysbyty â thri diwrnod o wrthfiotigau yn hytrach na saith. Mae hyn wedi arwain at newid gofal safonol, arbed amser ac arian a lleihau cysylltiad â gwrthfiotigau.
Gwnaeth astudiaeth USTEKID ymchwilio i ddefnyddio meddyginiaeth i oedi neu atal y difrod i’r pancreas ar gyfer pobl 12-18 oed, â diagnosis diweddar o ddiabetes math 1. Mae hwn yn astudiaeth genedlaethol barhaus gyda chyfranogwyr ifanc ledled y DU. Ar hyn o bryd rydym yn gweld 11 o bobl ifanc sydd naill ai yn cael cyffur yr astudiaeth neu blacebo saith gwaith dros 44 wythnos ac yn darparu samplau gwaed ac wrin ac yn llenwi holiaduron byr. Treial arloesol a allai ddileu defnydd inswlin ryw ddiwrnod.
Treial Ysgogi Sbwtwm Caerdydd sy’n ymchwilio i ffyrdd o asesu poer plant rhwng 6 mis a 18 oed sydd â Ffeibrosis Systig fel ffordd o wneud diagnosis o unrhyw heintiau. Roedd yr astudiaeth hon yn cynnwys profi ffyrdd newydd o brofi samplau’n rheolaidd, gan ddarganfod mai ysgogi sbwtwm (sampl poer) oedd y ffordd orau o nodi unrhyw heintiau yn hytrach na swab pesychiad. Gall diagnosis cynnar helpu gyda thriniaeth gynnar gan osgoi gorfod aros yn yr ysbyty a defnyddio steroidau."
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn darparu seilwaith Gymru gyfan i gefnogi’r gwaith o gyflwyno treialon ac mae’n ariannu arweinydd pediatrig arbenigol i hyrwyddo’r gwaith o ddatblygu a chymryd rhan mewn astudiaethau sy’n cynnwys plant yn y GIG yng Nghymru.
Ymchwil arall i blant yng Nghymru
Mae gan dair o’r canolfannau ymchwil sydd wedi’u hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru hefyd yn cynnwys CASCADE, DECIPHer a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth raglenni gwaith sy’n canolbwyntio ar anghenion iechyd, lles a gofal cymdeithasol plant a phobl ifanc.
Ychwanegodd Rhian: "Ein nod ar gyfer y dyfodol yw bod pob person ifanc yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ymchwil a allai newid neu wella eu bywydau nhw a bywydau plant y dyfodol.
"Mae gennym ni dipyn o ffordd i fynd o hyd, ond trwy ddathlu’r hyn sydd eisoes yn digwydd gallwn ni ddangos y manteision ac annog cynnal mwy o astudiaethau yma yng Nghymru."